Nyrsys Endometriosis yn fy Mwrdd Iechyd
Un o brif argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru yn 2018 oedd i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru benodi o leiaf un nyrs i gyflawni rôl nyrs endometriosis arbenigol. Byddai hon yn swydd gwbl newydd, ac yn unigryw i Gymru.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at y gwasanaeth nyrs endometriosis yn eich ardal chi, dylech gysylltu ag adran gynaecoleg eich Bwrdd Iechyd. Gallwch hefyd ymweld â gwefan eich Bwrdd Iechyd i gael gwybodaeth am ofal endometriosis yn eich ardal chi: