Gwybodaeth i weithwyr

Mae’n bwysig cofio bod gan eich cyflogwr gyfrifoldeb i sicrhau bod eich gweithle’n ddiogel ac yn gynhwysol.​ Gall hyn fod yn wahanol i bob gweithiwr, yn dibynnu ar eu hanghenion a’u gofynion unigol.  

Dydy hi ddim yn hawdd siarad â chyflogwyr am bethau personol  bob amser, er enghraifft os oes gennych chi endometriosis neu’n amau bod gennych chi, a sut mae’r symptomau’n effeithio arnoch chi yn y gwaith.    Mae dysgu am brosesau’r gweithle yn gallu’ch helpu i baratoi a chael y sgyrsiau yma. Isod mae ein cyngor ar bethau i’w hystyried ynghylch hyn.  

Addasiadau rhesymol

Fyddai llawer o bobl sydd ag endometriosis ddim yn ystyried eu hunain yn anabl.  Mewn rhai achosion, mae hyn oherwydd bod eu symptomau’n cael eu rheoli ac felly dydyn nhw ddim yn profi effaith negyddol ar eu bywyd. Dro arall, mae hyn gan fod anabledd wedi’i gamddeall mewn cymdeithas. Yn anffodus, mae’r gamddealltwriaeth yma ynghylch anabledd weithiau’n gallu atal cleifion endometriosis rhag cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Mae un enghraifft o hyn i’w weld yn y gweithle. Er enghraifft, efallai na fydd cleifion endometriosis na’u cyflogwyr yn ymwybodol o sut gall addasiadau rhesymol yn y gweithle helpu’r staff sy’n profi symptomau endometriosis i reoli eu gwaith a’u hiechyd yn well.  

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud ‘addasiadau rhesymol’ fel nad yw gweithwyr anabl o dan anfantais sylweddol wrth wneud eu swyddi o gymharu â phobl nad ydyn nhw’n anabl. Mae hyn yn berthnasol i bob gweithiwr, gan gynnwys hyfforddeion, prentisiaid, gweithwyr ar gontract a rhai partneriaid busnes.

Mae nifer o addasiadau y gallai cyflogwr eu hystyried, ond dylai addasiadau rhesymol gael eu teilwra i’ch achos penodol chi. Mae’r math o addasiadau rhesymol y gallai gweithwyr ag endometriosis ofyn amdanyn nhw fel arfer yn cynnwys:

  • Alla i symud fy nesg yn agosach at y tŷ bach?  
  • Alla i gymryd egwyliau byrrach ond yn amlach, er mwyn cymryd meddyginiaeth neu newid cynnyrch mislif?
  • Oes modd gweithio gartref?
  • Alla i chi ddychwelyd i’r gwaith yn raddol – gan weithio oriau byrrach neu lai o ddyddiau i ddechrau?

Cyngor i weithwyr

  • Os ydych chi’n poeni am siarad am symptomau, ewch â thaflen wybodaeth gyda chi er mwyn gallu cyfeirio ati a dweud y byddai’n dda iddyn nhw ei darllen a’i thrafod gyda chi
  • Ystyriwch fynd â ffrind, cydweithiwr, neu eiriolwr gyda chi i’r cyfarfod
  • Dewiswch amser a gofod lle bydd gweithiwr a rheolwr yn gallu cael sgwrs heb i rywun darfu arnyn nhw
  • Edrychwch i weld a oes adran Adnoddau Dynol gan y cwmni a allai helpu  
  • Edrychwch i weld a yw’r cwmni’n cynnig therapi a iechyd galwedigaethol fel cymorth
  • Dysgwch am bolisi’r gweithle ynghylch gofyn am addasiadau rhesymol
  • Darllenwch a dilynwch y polisi, er enghraifft gwnewch y cais yn ysgrifenedig os mai dyna mae’r polisi’n gofyn amdano
  • Ystyriwch drefnu sgwrs ddilynol i weld sut mae’r addasiadau rhesymol yn gweithio (ai peidio)
  • Trafod a oes modd neu angen cael sgyrsiau llesiant rheolaidd gyda rheolwyr llinell, yn enwedig os ydych chi’n dychwelyd i’r gwaith yn raddol ar ôl cyfnod hir o absenoldeb salwch.

Cyngor pellach a chymorth ar faterion yn y gweithle

  • Mae Acas yn rhoi cyngor diduedd am ddim i weithwyr a chyflogwyr, ar hawliau, rheolau ac arfer da yn y gweithle, ac maen nhw’n cynnig hyfforddiant a chymorth i ddatrys anghydfodau

  • Mae Cyngor ar Bopeth yn gallu’ch helpu i ddysgu mwy am eich hawliau a sut i ddatrys problemau

  • Os ydych chi’n aelod o undeb, byddan nhw’n rhoi gwybodaeth a chymorth i chi, ac yn gallu eich cynrychioli mewn cyfarfodydd gyda’ch cyflogwr, pe bai angen

  • Gwasanaethau cymorth fel Iechyd Galwedigaethol, sef y gwasanaeth mewn sefydliad sy’n helpu gydag atal a thrin anafiadau a salwch sy’n gysylltiedig â’r gwaith ac yn aml gydag addasiadau rhesymol a hwyluso yn y gweithle

  • Mae’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) wedi cyhoeddi canllaw mislif, iechyd mislif a menopos yn y gweithle (2024) (sydd i’w weld yma Canllaw mislif, iechyd mislif a menopos yn y gweithle). Nod y canllaw yma yw rhoi cyngor ymarferol i gyflogwyr a’u helpu i greu mannau sy’n fwy cefnogol i weithwyr sy’n profi problemau sy’n gysylltiedig â’r mislif, iechyd mislif, a’r menopos. Mae’n werth nodi bod endometriosis fel arfer yn cael ei ystyried yn gyflwr iechyd mislif, hyd yn oed os yw’r symptomau’n ehangach. Mae’r canllaw wedi’i greu gyda gweithwyr a chleifion, y mae rhai ohonyn nhw’n byw yng Nghymru, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o fusnesau a gweithleoedd yng Nghymru

  • Mae Endometriosis UK wedi datblygu Cynllun Cyflogwyr Endometriosis Gyfeillgar (gweler yma: Cynllun Cyflogwyr Endometriosis Gyfeillgar Endometriosis UK) sy’n cynorthwyo cyflogwyr i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol i bobl ag endometriosis. Mae Llywodraeth Cymru, HSBC, Admiral Insurance, ac M&S Bank oll yn gyflogwyr endometriosis gyfeillgar, a llawer o sefydliadau eraill hefyd!  

Ni fwriedir i’r wybodaeth hon fod yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol ac ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor cyfreithiol ar unrhyw fater penodol. Nid yw’r awdur na GIG Cymru yn derbyn atebolrwydd am gywirdeb cynnwys y wefan hon, nac am y canlyniadau o ddibynnu arni. At hynny, nid yw darparu dolenni at wefannau eraill yn nodi cymeradwyaeth, cefnogaeth na gwarant o gywirdeb y wybodaeth sydd ar y gwefannau hyn.