Grwpiau cymorth endometriosis

Mae llawer o bobl yn cael budd a chysur wrth siarad gyda phobl eraill sydd wedi bod neu sy’n mynd trwy brofiadau tebyg.

Mae grwpiau cymorth ar gyfer pobl ag endometriosis neu boen cronig yn gallu bod yn ffordd wych o gwrdd â phobl eraill i siarad am y profiadau yma a rhannu cyngor.

Yng Nghymru, mae Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW) yn sefydliad rhagweithiol sy’n cael ei arwain gan gleifion ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru ac sy’n chwilio am gyngor, cymorth a chefnogaeth ymarferol wrth ymdrin â’u gwasanaethau iechyd lleol a chael mynediad at ofal. Fe’i crëwyd i gynorthwyo cleifion gydag endometriosis yn wreiddiol, ac mae ganddyn nhw ddealltwriaeth unigryw o’r heriau o fyw gyda’r afiechyd yma yng Nghymru, ac maen nhw wedi ymgyrchu ar sail hynny. Mae ganddyn nhw grŵp cymorth poblogaidd ar Facebook sy’n dod â phobl sy’n byw gyda chyflyrau fel endometriosis, a llawer o rai eraill fel y menopos, Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD), colli babanod ac ati, o bob rhan o Gymru at ei gilydd. Maen nhw hefyd yn trefnu grwpiau cymorth wyneb yn wyneb ar gyfer menywod â chyflyrau iechyd cronig a/neu barhaus (gan gynnwys endometriosis).

Roedd FTWW yn bartner allweddol wrth ddatblygu gwefan endometriosis.cymru.

Mae gan Endometriosis UK linell gymorth ffôn am ddim, ynghyd â grwpiau cymorth lleol a gaiff eu rhedeg gan wirfoddolwyr ledled Prydain. Gallwch ddysgu mwy am grwpiau cymorth Endometriosis UK yma.