Beth ydy symptomau endometriosis? (hawdd ei ddarllen)
Salwch sydd gan lawer o bobl yw endometriosis.
Fel arfer mae’n brifo ar waelod y bol ond mae’n gallu brifo mewn llefydd eraill hefyd.
Dydy endometriosis ddim yn brifo o hyd. Mae’r brifo’n gallu mynd a dod.
Dyma restr o rai symptomau endometriosis.
- Poen ar waelod dy fol neu waelod dy gefn. Weithiau mae’r poen yn waeth pan rwyt ti’n cael mislif
- Poen pan wyt ti’n cael rhyw neu boen ar ôl i ti gael rhyw
- Poen pan wyt ti’n pi-pi neu’n pŵ
- Ddim yn gallu pŵ neu’n cael pŵ dyfrllyd
- Teimlo’n sâl
- Gwaed yn dy bi-pi pan wyt ti’n cael mislif
- Coesau poenus
- Methu mynd yn feichiog
- Teimlo wedi blino’n aml
Mae endometriosis yn gallu gwneud i ti deimlo’n drist neu boeni oherwydd dy symptomau gwael.
Os oes gennych symptomau gwael dylech ddweud wrth eich meddyg.