Mae’r teclyn yn seiliedig ar ganllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer endometriosis.

Mae canllawiau NICE yn cynnig argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer iechyd a gofal, i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau am ddiagnosis a thriniaethau gyda chi. Mae’r canllawiau wedi’u creu gan bwyllgorau annibynnol, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd, ac ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid.  

Mae canllawiau NICE yn rhestru symptomau ac arwyddion ar gyfer pryd dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol amau endometriosis. Mae’r teclyn felly’n canolbwyntio ar y symptomau allweddol yma.  

Serch hynny, rydyn ni’n cydnabod bod endometriosis yn gallu cynnwys symptomau eraill hefyd. I ddysgu mwy am y symptomau a allai fod yn endometriosis, ewch yma.