Efallai y bydd rhai pobl yn poeni am y niwed gallai adrodd (neu fonitro) symptomau ei achosi. Er enghraifft, efallai bydd rhai pobl yn teimlo bod defnyddio teclyn adrodd am symptomau’n feichus oherwydd yr ymdrech neu gan eu bod yn cael eu hatgoffa o symptomau bob dydd. Ond, mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu bod y faich yn cael ei gwrthbwyso gan y manteision.  Mae rhai pobl hefyd yn poeni y byddan nhw’n darganfod bod ganddyn nhw salwch difrifol.  

Mae’n bwysig nodi nad yw Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yn declyn diagnostig. Mae hyn yn golygu nad yw’n gallu dangos a oes gennych chi broblem feddygol sy’n bodoli eisoes ai peidio. Os ydych chi’n poeni am eich symptomau neu’n tybio bod gennych chi broblem feddygol, yna dylech siarad â’ch meddyg.  

Bydd rhannu a thrafod yr adroddiad symptomau a gynhyrchwyd gyda Theclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yn eich helpu i gyfleu eich symptomau a’u heffaith i’ch meddyg, ac yn galluogi’r meddyg i ddeall eich symptomau a’u patrwm yn well. Bydd hyn yn eich helpu chi a’ch meddyg i benderfynu beth ddylai’r camau nesaf yn eich gofal fod.  

Os hoffech ddysgu mwy am sut caiff eich ymatebion yn y Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru eu cadw’n ddiogel, ewch i’r dudalen telerau ac amodau.