Rydyn ni’n deall bod dau fis yn amser hir, a bod llawer o bobl wedi bod yn cael trafferth gyda’u symptomau ers misoedd neu flynyddoedd. Rydyn ni’n argymell dau fis gan y bydd eich meddyg yn ceisio nodi patrwm o symptomau. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi weld sut mae eich symptomau’n newid dros y mis hefyd. Er enghraifft, ydych chi’n teimlo’n waeth ar adegau penodol, fel yn ystod eich mislif?  

Bydd cadw gwybodaeth am eich symptomau dros ddau fis yn eich helpu chi a’ch meddyg i wneud penderfyniadau gyda’ch gilydd am eich gofal.