Ar ôl adolygu’r wybodaeth rydych chi wedi’i chasglu am eich symptomau gan ddefnyddio teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru, efallai bydd eich meddyg yn argymell profion, atgyfeiriad at arbenigwr, a/neu driniaethau’n seiliedig ar y symptomau rydych chi’n eu hadrodd. Efallai y byddwch chi’n cael diagnosis o rywbeth arall nad yw’n endometriosis.  

Er mwyn dysgu mwy am gael diagnosis o endometriosis, ewch i: https://endometriosis.cymru/diagnosis/ 

Gallwch ddefnyddio teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru i wneud nodyn o’ch apwyntiadau gofal iechyd, profion, triniaethau, a diagnosau. Os oes rhywbeth yn newid yn eich hanes gofal neu driniaeth, gwnewch nodyn o hyn gan ddefnyddio’r botwm ‘Diweddaru eich Hanes Gofal’.