Ewch â chanlyniadau Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru gyda chi i’ch apwyntiad gyda’r meddyg. Er mwyn creu adroddiad i’w rannu gyda’ch meddyg, cliciwch ar y symbol ‘adroddiad’ ar waelod y dudalen. Mae’n edrych fel hyn: 

Nesaf, gallwch lawrlwytho PDF o’ch adroddiad i’w argraffu neu ei anfon drwy e-bost. 

Mae’r adroddiad yn crynhoi gwybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i chi a’ch meddyg benderfynu ynghylch eich gofal. Y mwyaf y byddwch chi’n defnyddio’r traciwr, y mwyaf manwl fydd y darlun o’ch symptomau a’u heffaith i’ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.  

Efallai y byddwch chi am rannu’r wybodaeth yma gyda’ch meddyg teulu cyn eich apwyntiad. Dylech gysylltu â’ch meddygfa i ganfod y ffordd orau o wneud hyn. 

Efallai y bydd eich meddyg wedi argymell eich bod yn defnyddio’r teclyn, ac yn yr achos hwnnw, dilynwch gyngor eich meddyg. 

Os daethoch chi o hyd i’r teclyn eich hunan a’ch bod am rannu’r canlyniadau gyda’ch meddyg, rydyn ni wedi cynnwys awgrymiadau isod o ffyrdd y gallwch gyflwyno’r teclyn: 

  • “Rydw i’n profi {eich symptomau} ac maen nhw’n cael effaith negyddol sylweddol ar fy mywyd” 
  • “Rydw i wedi bod yn defnyddio teclyn i gofnodi fy symptomau dros amser. Cafodd y teclyn yma ei ddatblygu a’i greu gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, cleifion, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac mae wedi’i gefnogi gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.” 
  • “Mae’r teclyn yn casglu gwybodaeth am symptomau endometriosis ar sail canllawiau NICE dros ddau fis. Alla i rannu’r adroddiad cryno gyda chi? Rwy’n deall nad yw’r teclyn yn rhoi diagnosis i fi, ond tybed a fyddai modd i ni ymchwilio i’r symptomau yma gyda’n gilydd? 
  • “Mae dolen at wefan ar waelod yr adroddiad os hoffech chi ddysgu mwy am y teclyn” 

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen y wybodaeth rydyn ni wedi’i chasglu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am Declyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru.