Os ydych chi wedi methu rhai diwrnodau, peidiwch â rhoi’r gorau iddi! Gorau oll po fwyaf o wybodaeth y gallwch chi ei darparu i’ch meddyg. Ond, hyd yn oed gyda rhai diwrnodau ar goll, mae’r wybodaeth rydych chi’n ei chasglu yn dal i fod yn ddefnyddiol iawn.  

Gair i gall: 

Os ydych chi’n defnyddio fersiwn ar-lein y teclyn, byddwch chi’n cael neges i’ch atgoffa i lenwi’r ffurflen fer bob dydd. 

Os ydych chi’n defnyddio fersiwn copi caled o’r teclyn, mae’n werth gosod larwm bob dydd i’ch atgoffa i lenwi’r ffurflen – neu llenwch y ffurflen ar yr un pryd bob dydd (er enghraifft, ar ôl swper) er mwyn eich helpu i gofio.