Cafodd y Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis ei greu gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd (https://cfrr.org.uk), unigolion â phrofiad byw o endometriosis, eiriolwyr cyhoeddus dros endometriosis (Triniaeth Deg i Fenywod Cymru), ac arbenigwyr dylunio digidol (Proper Design).  

Wrth adeiladu’r teclyn, fe ymgynghoron ni gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n trin endometriosis, gan gynnwys meddygon teulu, gynaecolegwyr, nyrsys endometriosis arbenigol, clinigwyr iechyd rhywiol, ac aelodau o’r GIG sydd ag arbenigedd mewn gofal iechyd digidol a dylunio apiau.  

Darparwyd cefnogaeth a chyllid ychwanegol ar gyfer y teclyn gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, a’r Cyngor Ymchwil Meddygol.