Prif nod teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yw gwella gofal iechyd ac ansawdd bywyd y bobl sy’n profi symptomau a allai fod yn endometriosis.  

Er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud hyn, ac i barhau i wella’r teclyn, mae gwybodaeth ddienw’n cael ei chasglu drwy’r teclyn at ddibenion ymchwil.  

Er mwyn dysgu mwy am y canlynol, darllenwch y telerau ac amodau ar gyfer y teclyn. 

  • Eich hawliau 
  • Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu 
  • Sut rydyn ni’n casglu, yn storio ac yn diogelu eich gwybodaeth  
  • Beth fydd yn digwydd i’ch gwybodaeth 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Thîm Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru drwy  cfrr@cardiff.ac.uk