Mae gan bobl wahanol resymau dros ddefnyddio teclyn adrodd (neu fonitro) symptomau. Mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau ei ddefnyddio i ddeall eu symptomau’n well, ac i helpu gyda chynllunio bywyd a thrafodaethau gyda meddygon. 

Mae enghreifftiau pam mae pobl yn defnyddio teclynnau adrodd am symptomau yn cynnwys: 

  • helpu i ddisgrifio patrymau’r symptomau maen nhw’n eu profi wrth feddygon ac eraill (er enghraifft ar ôl i feddyg ofyn am ddyddiadur symptomau) 
  • rhagweld pryd allai symptomau fod yn well neu’n waeth, i helpu i gynllunio gweithgareddau dyddiol, cymdeithasol, a gwaith  
  • gweld y newid mewn symptomau ar ôl cyflwyno triniaeth feddygol, ffisiotherapi, newid mewn ymarfer corff neu ffordd o fyw 
  • canfod a oes ganddyn nhw broblem feddygol sy’n bodoli eisoes 

Bydd Teclyn Adrodd am Symptomau Endometriosis Cymru yn eich helpu i fonitro’r symptomau rydych chi’n eu profi ac yn gallu helpu i wireddu’r manteision yma.