Mae gan 1 o bob 10 menyw yng Nghymru endometriosis ond mae’n gallu cymryd amser hir i gael diagnosis.

Diagnosis

Pan fydd meddyg yn darganfod pa salwch neu gyflwr iechyd sydd gen ti.

Mae 3 prif reswm pam mae’n gallu cymryd amser hir i gael diagnosis o endometriosis.

  1. Os wyt ti’n cael poen mislif gwael, efallai byddi di neu’r meddyg yn meddwl bod hyn yn normal. Mae llawer o bobl yn meddwl bod poen mislif gwael iawn yn normal. Yn enwedig os yw eu ffrindiau neu eu teulu hefyd yn cael poen mislif gwael.  Dydy hi ddim yn normal cael poen mislif gwael iawn sy’n dy stopio di rhag gwneud pethau byddet ti’n eu gwneud yn dy fywyd fel arfer. Fel mynd i’r gwaith neu weld ffrindiau neu deulu.
  1. Mae llawer o symptomau gwahanol gan endometriosis.  Weithiau bydd y meddyg yn meddwl bod gen ti salwch arall. Mae hyn yn gallu golygu ei bod hi’n cymryd mwy o amser i glywed bod gen ti endometriosis.
  1. Os wyt ti’n cymryd meddyginiaeth sy’n gwneud i dy symptomau deimlo’n well, mae’n gallu bod yn anoddach cael diagnosis o endometriosis. Fydd meddyginiaeth ddim yn gwneud i endometriosis ddiflannu, ond mae rhai pobl yn penderfynu bod yn well ganddyn nhw gymryd meddyginiaeth na chael llawdriniaeth i weld yn sicr a oes ganddyn nhw endometriosis.  

Mae mwy o wybodaeth yma am y math o brofion mae dy feddyg yn gallu eu gwneud i weld os oes gen ti endometriosis.