Byw gyda’r boen

Poen ddifrifol sy’n anablu yw’r rheswm mwyaf cyffredin i bobl sydd â diagnosis o endometriosis fynd at y meddyg yn y lle cyntaf. Mae menywod ag endometriosis yn profi effaith poen ddyddiol yn fwy na menywod â phroblemau pelfig arall.

Yn aml, mae poen endometriosis yn dechrau yn ystod llencyndod neu’n gynnar mewn bywyd, ac nid yw lefel y boen yn arwydd o ba gam mae’r clefyd ynddo, gall menywod â lefel isel o’r clefyd brofi poen eithafol. Gellir profi’r boen sy’n gysylltiedig ag endometriosis yn ystod y mislif (gelwir hyn yn dysmenorrhea), rhyw (dyspareunia) ac wrth fynd i’r tŷ bach (sef dysuria neu dyschezia).

Mae pobl wedi disgrifio eu poen mewn llawer o ffyrdd, fel ‘trywanu’, ‘gwasgu’, ‘curo’ a ‘dwfn’. Mae’r boen yn ddifrifol, wedi’i disgrifio fel ‘erchyll’ ac ‘anioddefol’, ac yn gallu effeithio ar weithgareddau bob dydd – mynd i’r ysgol, gwaith, cymryd rhan yn eich bywyd cymdeithasol a phersonol a mwy.

Rheoli poen

Mae rheoli poen yn rhan bwysig iawn o ofalu a byw gydag endometriosis. Mae pobl ag endometriosis yn cael mynediad at wasanaethau rheoli poen drwy eu meddyg neu arbenigwr arall.

Mae rheoli poen mewn modd priodol yn bwysig, oherwydd gall poen ddifrifol endometriosis amharu ar gwsg, gweithgareddau bob dydd, a lles meddyliol.

Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau ar gyfer rheoli poen ar y dudalen Llwybr Trin a Rheoli.

Safbwyntiau Cleifion

Mae’r safbwyntiau cleifion yn dod o gyfweliadau â chleifion endometriosis ac arolwg 2018

  • Mae poen endometriosis yn llythrennol llethol; nid yn unig mae’n effeithio ar eich corff yn gorfforol, ond yn feddyliol hefyd, sy’n rheoli eich bywyd bob munud o bob dydd. Mae’r blinder yn gwaethygu’r boen ac mae’r boen yn gwaethygu’r blinder.

  • Rydw i wedi gorfod aros yn yr ysbyty dros nos oherwydd y boen o leiaf bedair gwaith. Fe wnaeth y boen fy anablu, gan achos i fi orfod gadael y brifysgol am flwyddyn.

  • Poen ofylu – mae’n annioddefol ac wedi bod yn gwaethygu. Rydw i wedi mynd yn ôl ar y bilsen yn ddiweddar, ac rydw i’n dal i ddioddef gydag e.

Safbwyntiau llwybrau

Oherwydd effeithiau niferus endometriosis, roedd cyngor y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ystyried ai ymagwedd amlddisgyblaethol tuag at reoli poen pelfig cronig fyddai’r ffordd orau o reoli poen ar gyfer endometriosis. Byddai’r ymagwedd yma o’r diagnosis cychwynnol yn rhoi mynediad at arbenigwyr rheoli poen pelfig cronig, ffisiotherapyddion, dietegwyr, seicolegwyr (e.e. ar gyfer therapi ymddygiad gwybyddol, strategaethau ymdopi, cwnsela, a chyngor ar ffordd o fyw).