Endometriosis a iechyd meddwl

Mae’n eithaf cyffredin i bobl sy’n byw ag endometriosis deimlo’n isel neu’n bryderus. Mae llawer o resymau dros hyn:

  • Mae byw gyda chyflwr cronig a phoenus yn gallu gwneud i bobl deimlo’n drist ac yn unig, yn enwedig pan nad oes modd ‘gweld’ y clefyd ar yr ochr allanol, ac mae’n anodd ei ddisgrifio neu’n codi cywilydd wrth ei ddisgrifio.
  • Mae’n bosib y bydd pobl sy’n byw â chyflwr fel endometriosis yn methu â mynd i’r ysgol, i’r gwaith, neu gael cymaint o fywyd cymdeithasol ag yr hoffen nhw – mae hyn yn gallu gwneud i bobl deimlo’n unig ac yn drist.
  • Mae cael digon o gwsg o ansawdd yn gallu bod yn anodd pan fydd person mewn poen a/neu yn gwaedu’n drwm ar eu mislif. Mae cwsg yn bwysig iawn er mwyn osgoi problemau iechyd meddwl, felly os nad yw pobl yn cysgu’n dda, gall hyn gael effaith sylweddol.
  • Weithiau, mae’r feddyginiaeth sy’n cael ei chymryd i helpu gyda symptomau yn gallu cael effaith ar hwyliau a/neu batrymau cysgu.
  • Mae rhai pobl yn mynd yn bryderus gan fod y symptomau’n gallu bod yn anodd eu rhagweld, gan eu bod nhw’n teimlo nad yw pobl yn eu credu, neu gan eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd cael triniaeth sy’n gweithio mewn modd amserol

Mae grwpiau cymorth, boed nhw ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth wneud i bobl deimlo’n llai unig ac yn fwy hyderus am geisio cymorth.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n sôn wrth y meddyg am yr holl bryderon sydd gennych chi ynghylch symptomau, gan eu bod nhw’n gallu gwneud i chi deimlo’n drist ac yn wael amdanoch chi eich hunan, eich bywyd bob dydd, a’ch perthnasau. Dylai eich meddyg fod yn barod i siarad gyda chi am wneud cynllun i helpu eich poen a gwella ansawdd eich bywyd.