Straen ac ymdopi
Mae gan bobl sydd ag endometriosis fywyd straenus yn aml. Mae’r rheswm dros hyn yn amlwg pan fyddwn ni’n edrych ar sut mae pobl wedi esblygu i ymdopi gyda’r gofynion yn ein hamgylchedd.

Mae pobl wedi esblygu i ganfod bygythiadau yn ein hamgylchedd.
Mae pobl sydd ag endometriosis yn wynebu llawer o ofynion yn eu bywyd bob dydd. Gallai unrhyw beth, o darfiad bach i fywyd bob dydd a gaiff ei achosi gan y clefyd, i symptomau a phoen mwy difrifol, deimlo fel fel peryglon o dan yr amgylchiadau cywir. Gallai hyd yn oed yr her o benderfynu ar y lefel a’r math cywir o ofal ar gyfer y symptomau wrth i’r clefyd ddatblygu gael ei hystyried fel bygythiad os nad ydyn ni’n teimlo’n barod i wneud y penderfyniadau hynny.
Beth sy’n cyfri fel bygythiad?
Pan fydd rhywbeth yn digwydd yn ein bywyd ac rydyn ni’n gofyn i’n hunain yn anymwybodol “Allai’r digwyddiad yma fygwth fy lles?”. Bydd yr ateb yn dibynnu ar:
- Nodweddion y digwyddiad
Mae digwyddiadau sy’n negyddol, ar fin digwydd, sy’n anrhagweladwy neu’n afreolus, oll yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddwn ni’n ystyried digwyddiad fel bygythiad. - Ein personoliaeth
Mae pobl sydd, drwy eu natur neu eu hamgylchiadau, yn fwy pryderus neu besimistaidd yn fwy tebygol o weld digwyddiad fel bygythiad. - Pryderon neu straen arall mewn bywyd
Mae cael pryderon neu straen arall ar yr un pryd yn golygu bod digwyddiad a allai fod yn iawn ar ei ben ei hunan, yn cael ei ystyried fel bygythiad. Yn anffodus, mae hyn yn golygu y mwyaf o straen rydyn ni’n ei deimlo, y mwyaf tebygol rydyn ni o deimlo ymateb straen pan fyddwn yn wynebu gofynion newydd.
Mae llawer o’r gofynion mae pobl ag endometriosis yn eu hwynebu yn beryglus i’w llesiant. Mae symptomau negyddol anrhagweladwy ac afreolus, pwysau ychwanegol ar fywyd bob dydd o ganlyniad i’r clefyd, ac effeithiau ar iechyd meddwl o fyw gyda chyflwr cronig oll yn cyfrannu at fygythiadau yn eu hamgylchedd. Pan nad ydyn ni’n ystyried digwyddiad fel bygythiad, yna ni chaiff y broses ymdopi ei sbarduno.
Mae pobl hefyd wedi esblygu i fod yn ddyfeisgar gyda’n hadnoddau.
Pan fydd bygythiad yn ymddangos yn ein hamgylchedd, rydyn ni’n dechrau chwilio am ffyrdd o’i reoli. Rydyn ni’n edrych i weld beth sydd ar gael i ni – hynny yw, ein hadnoddau.

Beth sy’n cyfrif fel bygythiad?
Pan fydd bygythiad yn digwydd yn ein hamgylchedd, rydyn ni’n gofyn i’n hunain “Oes gen i’r adnoddau ymdopi i ddelio gyda’r bygythiad yma?” Mae’r ateb i’r cwestiwn yma’n dibynnu ar sawl ffactor.
- Adnoddau ‘gwirioneddol’
Mae bod ag adnoddau fel arian, gwybodaeth neu iechyd da yn gwneud ymdopi â bygythiadau yn haws. - Ein personoliaeth
Mae bod yn fwy optimistaidd a gwydn yn ei gwneud hi’n haws ymdopi â bygythiadau - Ein dull o ymdopi
Mae osgoi bygythiadau yn ei gwneud hi’n anodd eu rheoli, gan nad ydyn nhw’n cael eu hwynebu; ar y llaw arall, bydd gwybod neu ddysgu llawer o strategaethau ymdopi yn ein helpu ni i deimlo fel pe bai ganddon ni’r adnoddau i ymdopi - Cymorth cymdeithasol
Mae bod â phobl rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw, sy’n dangos cariad a dealltwriaeth tuag aton ni, ac sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth ymarferol i ni hefyd yn ei gwneud hi’n haws i ni deimlo fel pe bai ganddon ni’r adnoddau i ymdopi â sefyllfa. Gallwch ddarllen mwy am feithrin empathi yma.
Cydbwyso bygythiadau ac adnoddau
Pan fyddwn ni’n nodi digwyddiad fel bygythiad, ein natur yw sbarduno’r broses ymdopi. Os ydyn ni’n teimlo bod digon o adnoddau ymdopi ganddon ni i ddelio â’r bygythiad a achosir gan y gofynion yn ein hamgylchedd, byddwn ni’n osgoi ymatebion straen.
Beth os nad oes gennych chi’r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch chi?

Pan fo cydbwysedd rhwng maint neu natur y bygythiad a’r adnoddau ymdopi sydd ar gael, yna byddwn ni’n profi ymatebion straen.
Yn aml, mae pobl sydd ag endometriosis yn bron o rai adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i reoli’r holl fygythiadau a achosir gan y clefyd. Maen nhw’n nodi llawer o’r teimladau, symptomau a phroblemau ymddygiadol sy’n gysylltiedig â straen (e.e. yfed yn ormodol neu orfwyta) ynghyd â’r effeithiau corfforol a meddyliol sydd eisoes yn cael eu hachosi gan eu clefyd.
- Bylchau mewn gwybodaeth am endometriosis
Mae llawer o gamdybiaethau am endometriosis, a chyngor sy’n gwrthddweud ei gilydd ac sy’n gamarweiniol. Mae diffyg dealltwriaeth o endometriosis ymhlith y cyhoedd, ynghyd â rhai gweithwyr iechyd proffesiynol. - Diffyg cefnogaeth gan deulu a ffrindiau
Yn aml, mae pobl ag endometriosis yn stopio dweud wrth bobl eraill am eu clefyd ac yn dechrau osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol neu bobl eraill gan ei bod yn mynd yn rhy anodd ceisio egluro eu cyflwr anweledig i eraill - Gwaith, straen, pryderon ariannol
Gall pobl ag endometriosis brofi tarfiad i’w bywyd gwaith gan y symptomau, a all arwain at straen. Yn yr un modd, os yw’r symptomau mor wael nes nad oes modd i chi weithio o gwbl, efallai y byddwch chi’n profi pryderon ariannol.
Ymatebion straen
Mae gormod o ymatebion straen posib i’w rhestru, ond dyma rai:
- teimlo’n bryderus, yn nerfus, yn ofnus neu’n drist, yn ddigalon ac yn siomedig
- symptomau corfforol fel anadlu panig, poen yn y frest, cyfog a chrampiau stumog
- problemau gyda chanolbwyntio, talu sylw neu gysgu
- ymddygiad nad yw’n iach
Hybu adnoddau ymdopi
Mae llawer o ffyrdd o hybu adnoddau ymdopi er mwyn lleihau profiad o ymatebion straen. Dyma rai o’r ffyrdd y mae pobl ag endometriosis yn nodi eu bod yn eu defnyddio’n aml.
Strategaethau i reoli gofynion yn uniongyrchol
- Trefnu gweithgareddau ysgol, gwaith neu gymdeithasol i osgoi adegau pan fydd y symptomau ar eu gwaethaf
- Lliniaru poen gan ddefnyddio poenliniarwyr, ymlacio neu reoli deiet
- Ceisio cefnogaeth gymdeithasol gan ffrindiau a theulu
- Cynnal eu hymchwil eu hunain ar y rhyngrwyd i ddeall yn well, ac i ddod o hyd i esboniadau sy’n gweithio iddyn nhw
Strategaethau i reoli’r emosiynau a achosir gan y gofynion
- Ail-fframio meddyliau am y cyflwr i dderbyn a dysgu byw gydag e
- Siarad gyda’u hunain er mwyn annog a thawelu eu meddwl eu hunain
- Ceisio gweld y pethau cadarnhaol
- Ysbrydolrwydd
- Rheoli maethol
- Gorffwys
- Ymarfer corff
Strategaethau i ddod o hyd i bobl eraill sy’n profi endometriosis
Un o’r ffyrdd gorau o reoli’r pwysau a achosir gan endometriosis yw cwrdd â phobl eraill sy’n profi’r un cyflwr. Gall pobl ddysgu am y cyflwr a rhannu gydag eraill mewn ffordd sy’n gallu eu helpu i reoli’r ffordd maen nhw’n gweld y bygythiadau a achosir gan eu clefyd, a hefyd eu gallu i ymdopi ag e (gyda mwy o adnoddau).