Teulu a ffrindiau

Gall bod â chyflwr hirdymor fel endometriosis deimlo’n unig iawn, yn enwedig os nad yw’r bobl o’ch cwmpas yn deall beth rydych chi’n ei brofi. Mae llawer o bobl yn teimlo cywilydd yn siarad am y mislif, ac mae rhai’n dal i fod â syniadau hen ffasiwn am ‘ddal ati’ neu ‘broblemau merched’.

Mae eich poen a’ch profiadau yn real. Dywedir bod endometriosis yn effeithio ar hyd at un ymhob 10 menyw o oedran mislif ym Mhrydain: mae hynny’r un mor gyffredin â diabetes. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n debygol eich bod chi a’ch teulu neu eich ffrindiau yn adnabod pobl eraill sy’n profi’r boen rydych chi’n ei chael, er nad oes ganddyn nhw ddiagnosis eto. Efallai bod siarad am y peth yn teimlo’n chwithig i ddechrau, ond mae poen pelfig a mislif yr un mor real a dilys ag unrhyw boen arall.

Weithiau, mae’n gallu helpu i siarad am eich profiadau yn ysgrifenedig, neu arlunio hyd yn oed. Sefydlwyd prosiect DrawingOut: Invisible Diseases ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n defnyddio ymarferion arlunio i helpu pobl i rannu eu profiadau o fyw gyda salwch anweledig. Os yw’ch teulu a’ch ffrindiau yn ei chael hi’n anodd deall, efallai y byddai’n werth eu cyfeirio nhw at y wefan yma. Mae llawer o straeon ac enghreifftiau gan bobl y mae endometriosis wedi effeithio ar eu bywydau. Gallech hyd yn oed gyflwyno arluniadau eich hunan.

Mae angen amser a lle ar rai pobl i amsugno gwybodaeth newydd, ac mae’n bosib y bydd eraill am ofyn mwy o gwestiynau. Gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio teulu a ffrindiau at wefannau sy’n gallu eu helpu i ddeall mwy am y cyflwr yn eu hamser eu hunain. Ynghyd ag Endometriosis Cymru a gwefan ehangach GIG 111 Cymru ar endometriosis, mae nifer o elusennau a sefydliadau y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, addysgu ac eirioli dros bobl sy’n byw ag endometriosis. Mae’r rhain yn cynnwys Endometriosis UKTriniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) ac Endometriosis.org, ynghyd â llawer o rai eraill.

Yn anffodus, mae hefyd yn wir na fydd rhai pobl yn deall. Mae hyn yn gallu bod yn rhwystredig, yn enwedig os oes gennych berthynas agos gyda’r bobl yma. Yn hytrach, efallai y byddai’n ddefnyddiol siarad gyda phobl sy’n profi’r un profiadau â chi. Gallwch ddarllen mwy am grwpiau cymorth yma.