Empathi ar waith

Mae empathi ar ei fwyaf defnyddiol pan allwn ni ei ddefnyddio i wneud rhywbeth ymarferol i helpu’r person sy’n dioddef. Mae Dr Sarb Johal yn seicolegydd clinigol ac yn arbenigwr mewn seicoleg argyfwng, ac yn galw hyn yn empathi gyda chynllun gweithredu.

Yn hytrach na theimlo a siarad yn unig am y boen a’r symptomau, mae hyn yn golygu cymryd camau a fydd yn cefnogi’r person sy’n dioddef. Mae Dr Johal yn dweud bod llawer o gamau y gall pobl eu cymryd i helpu, ond rydyn ni’n awgrymu’r tri yma yn seiliedig ar wybodaeth, gwrando a chynllunio camau.

Dysgu am endometriosis

Ynghyd ag endometriosis.cymru a gwefan GIG 111 Cymru ar endometriosis, mae llawer o elusennau a sefydliadau y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, addysgu ac eirioli dros bobl sy’n byw ag endometriosis. Mae’r rhain yn cynnwys Endometriosis UK, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) ac Endometriosis.org.

Gwrando ar eich gilydd

Mae hyn golygu gwneud penderfyniad pwrpasol i wrando ac i ddeall rhywun go iawn. Mae pobl ag endometriosis yn aml yn teimlo bod eu sefyllfa a’u hanghenion yn anodd eu disgrifio, felly mae rhoi eich hunan yn eu sgidiau yn bwysig. Mae empathi hefyd yn ymwneud â chyfathrebu dwy ffordd. Mae gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr pobl ag endometriosis anghenion sydd angen eu hystyried hefyd.

Rydyn ni’n awgrymu dau declyn a allai helpu i annog y sgwrs.

Teclyn ‘Fi a Ti’ Endometriosis Cymru

Datblygon ni’r teclyn “Fi a Ti” i helpu pobl i ddeall effaith cyflwr fel endometriosis ar fywydau pobl. Mae’r teclyn yn rhoi dwy ffordd i bobl ddisgrifio ansawdd eu bywyd o’u safbwynt eu hunain. Gan ddefnyddio’r teclyn gyda ffrind, perthynas neu gydweithiwr, byddwch yn cael cyfle i siarad am ansawdd eich bywyd a sut mae eich amgylchiadau bywyd yn effeithio arnoch chi, eich perthnasau, a’ch gweithgareddau dyddiol.

DrawingOut: Invisible Diseases

Weithiau, gall ysgrifennu am eich profiadau neu arlunio helpu i ddangos sut rydych chi’n teimlo, yn hytrach na cheisio egluro wyneb yn wyneb. Menter a sefydlwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yw DrawingOut: Invisible Diseases, sy’n defnyddio darluniau i ddod â phrofiadau pobl sy’n byw â salwch anweledig yn fyw. Ar y wefan yma, mae llawer o straeon ac enghreifftiau gan bobl y mae endometriosis wedi effeithio ar eu bywydau, a gaiff eu disgrifio mewn geiriau a lluniau. Gallech hyd yn oed gyflwyno eich lluniau eich hunan.

Datblygu “cynllun gweithredu empathi” gyda’ch gilydd

Pan fydd gan bobl ddealltwriaeth well o’i gilydd, maen nhw’n gallu dechrau cymryd camau cefnogol. Gall y camau yma gynnwys:

  • mwy o empathi (gwrando)
  • cymorth ymarferol (cludo pecynnau gofal, cefnogi gweithgareddau bob dydd)
  • helpu pobl â’r cyflwr i deimlo wedi’u grymuso (e.e. cyflogwr, cyflwyno addasiadau rhesymol)

Dylid datblygu cynlluniau gweithredu empathi gyda’i gilydd, gan fod rhaid i’r camau weithio ar gyfer y bobl sy’n rhan o’u gweithredu.

Safbwyntiau Cleifion

Mae’r safbwyntiau cleifion yn dod o gyfweliadau â chleifion endometriosis ac arolwg 2018

  • Des i ar draws meddyg da iawn. Fyddwn i ddim yn mynd i weld neb arall nawr, am unrhyw beth arall. Fe wnaeth hi adfer fy ffydd yn y ffaith y gallai rhywun wrando arna i. Ro’n i’n gallu mynegi fy hunan yn iawn, ac roedd hi’n gwrando arna i.

  • Roedd fy mam . . . yn un o’r bobl yna lle pe baech chi’n sâl, roeddech chi’n delio â’r peth. Ond gyda fy endo, roedd hi’n gefnogol iawn. Rhoddodd hi nodyn ar ffeil yn yr ysgol i gael dod adre [os oedd angen i fi ei ffonio]. Roedd hi’n empathetig iawn iawn i fy mhrofiad, gan ei bod hi wedi ei brofi ei hunan. Roedd gen i e’n waeth na hi, a byddai hi’n arfer dweud ‘O, mae’n ddrwg gen i fy nghariad am roi hwn i ti.’ Roedd e bron yn rhywbeth oedd yn ein cysylltu ni.

  • Dw i’n meddwl bod pawb [sydd ag endometriosis] wedi bod trwy amser mor anodd. . . Rydych chi eisiau i genedlaethau’r dyfodol – plant ifanc wnes i eu haddysgu – dw i am iddyn nhw gael profiad gwell na’r hyn dw i wedi’i brofi. Rydw i am geisio lledaenu’r gair am ychydig o ddealltwriaeth mewn gwirionedd.