Byw gyda’r boen
Poen ddifrifol sy’n anablu yw’r rheswm mwyaf cyffredin i bobl sydd â diagnosis o endometriosis fynd at y meddyg yn y lle cyntaf. Mae menywod ag endometriosis yn profi effaith poen ddyddiol yn fwy na menywod â phroblemau pelfig arall.
Yn aml, mae poen endometriosis yn dechrau yn ystod llencyndod neu’n gynnar mewn bywyd, ac nid yw lefel y boen yn arwydd o ba gam mae’r clefyd ynddo, gall menywod â lefel isel o’r clefyd brofi poen eithafol. Gellir profi’r boen sy’n gysylltiedig ag endometriosis yn ystod y mislif (gelwir hyn yn dysmenorrhea), rhyw (dyspareunia) ac wrth fynd i’r tŷ bach (sef dysuria neu dyschezia).
Mae pobl wedi disgrifio eu poen mewn llawer o ffyrdd, fel ‘trywanu’, ‘gwasgu’, ‘curo’ a ‘dwfn’. Mae’r boen yn ddifrifol, wedi’i disgrifio fel ‘erchyll’ ac ‘anioddefol’, ac yn gallu effeithio ar weithgareddau bob dydd – mynd i’r ysgol, gwaith, cymryd rhan yn eich bywyd cymdeithasol a phersonol a mwy.
Rheoli poen
Mae rheoli poen yn rhan bwysig iawn o ofalu a byw gydag endometriosis. Mae pobl ag endometriosis yn cael mynediad at wasanaethau rheoli poen drwy eu meddyg neu arbenigwr arall.
Mae rheoli poen mewn modd priodol yn bwysig, oherwydd gall poen ddifrifol endometriosis amharu ar gwsg, gweithgareddau bob dydd, a lles meddyliol.
Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau ar gyfer rheoli poen ar y dudalen Llwybr Trin a Rheoli.