Holiadur ymdopi
Mae yna lawer o ffyrdd o ymdopi ag endometriosis. Efallai ei bod yn well gan rai pobl ganolbwyntio ar yr emosiynau y mae’n eu hachosi (ee, poeni), tra bo eraill yn ceisio dod o hyd i atebion ymarferol i’r hyn sy’n achosi eu straen.
O ran ymdopi, does dim ffordd gywir nac anghywir, ond mae rhai strategaethau’n gallu bod yn fwy defnyddiol na’i gilydd, yn dibynnu ar y sefyllfa. Er enghraifft, mewn sefyllfa nad oes modd ei rheoli (ee, aros am ganlyniadau profion), efallai na fydd ceisio datrys y problemau mor ddefnyddiol â rheoli’r pryder y gallech fod yn ei deimlo ynghylch canlyniadau’r profion. Am y rheswm hwn, mae’n syniad da edrych ar sut rydych chi’n ymdopi â symptomau endometriosis, hyd yn oed os nad ydych chi wedi cael diagnosis, ac ystyried a oes ffyrdd eraill o ymdopi y gallech eu defnyddio pan fo angen.
Beth yw eich ffyrdd o ymdopi?
Gallwch ddarganfod mwy am eich dull personol chi o ymdopi drwy lenwi’r arolwg syml hwn. Nid yw’r ffyrdd o ymdopi a restrir yma yn rhestr gyflawn o’r holl ddulliau posibl, yn hytrach dyma rai o’r ffyrdd mwyaf cyffredin a ddefnyddir.
Darllenwch bob un a dewiswch y rhif sy’n adlewyrchu i ba raddau wnaethoch chi ddefnyddio pob un o’r strategaethau ymdopi wrth geisio rheoli’r ffactorau oedd yn achosi’r straen yn gysylltiedig ag endometriosis yn ystod y mis diwethaf. Ar ôl cwblhau pob un, adiwch y rhif ym mhob categori i weld faint o ddefnydd ydych chi ei wneud o bob dull ymdopi.
Strategaeth | Heb ei defnyddio o gwbl | Prin wedi’i defnyddio | Wedi’i defnyddio weithiau | Wedi’i defnyddio lawer iawn |
Breuddwydio neu ddychmygu amser neu le gwell na’r un yr oeddwn ynddo | 1 | 2 | 3 | 4 |
Gobeithio y byddai gwyrth yn digwydd | 1 | 2 | 3 | 4 |
Osgoi bod gyda phobl yn gyffredinol | 1 | 2 | 3 | 4 |
Strategaeth | Heb ei defnyddio o gwbl | Prin wedi’i defnyddio | Wedi’i defnyddio weithiau | Wedi’i defnyddio lawer iawn |
Ceisio derbyn a gwneud y gorau o’r sefyllfa | 1 | 2 | 3 | 4 |
Ceisio gweld ochr bositif y sefyllfa | 1 | 2 | 3 | 4 |
Cymryd pethau un dydd ar y tro, un cam ar y tro | 1 | 2 | 3 | 4 |
Strategaeth | Heb ei defnyddio o gwbl | Prin wedi’i defnyddio | Wedi’i defnyddio weithiau | Wedi’i defnyddio lawer iawn |
Meddwl pa gamau i’w cymryd i ddatrys fy mhroblem | 1 | 2 | 3 | 4 |
Ceisio meddwl am wahanol ffyrdd o ddelio â fy mhroblem | 1 | 2 | 3 | 4 |
Gosod nodau i mi fy hun i ddelio â fy mhroblem | 1 | 2 | 3 | 4 |
Strategaeth | Heb ei defnyddio o gwbl | Prin wedi’i defnyddio | Wedi’i defnyddio weithiau | Wedi’i defnyddio lawer iawn |
Siarad efo teulu neu ffrindiau ynglŷn â sut roeddwn i’n teimlo | 1 | 2 | 3 | 4 |
Mynegi fy nheimladau ryw ffordd neu’i gilydd | 1 | 2 | 3 | 4 |
Ceisio gwneud synnwyr o fy nheimladau | 1 | 2 | 3 | 4 |
Gallwch ddarllen mwy am bob math o ddull ymdopi yma:
Gobeithio’n ofer a Dihangfa: Gyda’r math hwn o ymdopi, mae pobl yn ymdopi trwy obeithio’n ofer nad yw’r sefyllfa’n bod hyd yn oed pan fydd realiti go iawn yn dweud mai felly mae pethau. Gall y math hwn o ymdopi fod o gymorth a rhoi cysur dros dro neu sicrhau bod pobl yn dal yn obeithiol mewn sefyllfaoedd ansicr.
Enghreifftiau o obeithio’n ofer neu osgoi’r sefyllfa fyddai breuddwydio am fyd gwell, gobeithio y bydd gwyrth yn digwydd, cael dihangfa trwy wylio’r teledu neu chwarae gemau fideo’n aml, neu osgoi sefyllfaoedd fel gwaith neu weithgareddau cymdeithasol. Gallai dibynnu’n ormodol ar y math hwn o ymdopi olygu nad yw pobl yn cynllunio neu’n cymryd camau angenrheidiol. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n oedi cyn cael archwiliad o’u symptomau, neu siarad â’u cyflogwr ynglŷn ag angen i wneud addasiadau yn y gweithle.
Ymdopi trwy Ail-werthuso Cadarnhaol: Gyda’r math hwn o ymdopi, mae pobl yn ceisio ail-ddehongli neu ail-werthuso sefyllfa anodd trwy edrych arni mewn ffordd fwy cadarnhaol. Maen nhw’n chwilio am fanteision neu gyfleoedd posibl a allai ddeillio o’r sefyllfa neu’n chwilio am haul ar fryn. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ystyr, gobaith neu dwf personol yn wyneb adfyd. Caiff ei hystyried yn strategaeth hyblyg, sy’n ddefnyddiol yn y rhan fwyaf o gyd-destunau.
Enghreifftiau o’r math hwn o ymdopi yw cadw dyddiadur o’r pethau cadarnhaol yn eu bywydau y maen nhw’n teimlo’n ddiolchgar amdanynt, troi profiad negyddol yn un cadarnhaol, er enghraifft drwy wneud rhywfaint o waith eiriolaeth, neu ganolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd i ymdopi â’r sefyllfa (er enghraifft, myfyrio). Gallai dibynnu’n ormodol ar y strategaeth hon achosi i bobl osgoi meddwl neu siarad am feddyliau neu deimladau negyddol y mae angen mynd i’r afael â nhw. Er enghraifft, trafod opsiynau triniaeth newydd os nad yw triniaeth gyfredol yn gweithio, neu drafod anawsterau rhywiol gyda’u partner.
Ymdopi trwy Ddatrys Problemau: Mae hwn yn ddull uniongyrchol sy’n cynnwys nodi achos y broblem, canfod a phenderfynu ar yr ateb gorau, a gweithredu. Gall y ffordd hon o ymdopi roi ymdeimlad o reolaeth i bobl dros y sefyllfa a lleihau’r teimlad na allan nhw wneud dim ynglŷn â’r sefyllfa. Er enghraifft, mae rhai cleifion ag endometriosis yn ei chael hi’n ddefnyddiol cadw golwg ar eu symptomau neu apwyntiadau meddygol i’w helpu i gofio trafodaethau gyda’u meddygon ac effaith triniaeth. Efallai y bydd eraill yn ymchwilio i brofion a thriniaethau posibl y cyfeirir atynt ar wefannau fel endometriosis.cymru.
Mae’r dull ymarferol hwn yn fwyaf defnyddiol pan fydd y sefyllfa neu’r camau sydd eu hangen o fewn gallu’r unigolyn i’w rheoli. Mae’n llai defnyddiol pan fydd y straen y tu hwnt i’w rheolaeth, neu os yw’r broblem yn gymhleth iawn, bod mwy nag un ateb, a bod pob un ohonynt ddim yn berthnasol i sefyllfa’r unigolyn. Mae’r dull hwn hefyd yn llai defnyddiol pan nad oes gan yr unigolyn yr adnoddau i weithredu’r atebion, er enghraifft diffyg sgiliau technegol, diffyg gwybodaeth gywir, dim digon o gefnogaeth neu arian, ac ati. Gallai dibynnu’n ormodol ar ddatrys problemau hefyd olygu nad yw’r person yn prosesu’r emosiynau sy’n dod gyda’r sefyllfa sy’n achosi straen.
Ymdopi trwy Ddull Emosiynol: Gyda’r math hwn o ymdopi, mae’r ffocws yn uniongyrchol ar reoli emosiynau yn hytrach na cheisio’u cuddio neu eu hanwybyddu. Mae hon yn strategaeth ddefnyddiol pan fydd sefyllfa’n creu llawer o emosiwn a bod yna bobl y gellir rhannu’r emosiynau hynny â nhw mewn ffordd gefnogol.
Er enghraifft, i rai pobl gall grwpiau cymorth poen endometriosis neu’r pelfis fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o ymdopi. Yn y rhain mae cyfle i rannu eu teimladau ag eraill, cyfle i eraill sy’n mynd trwy’r un profiad gadarnhau eu teimladau ac mae cymorth ar gael. Mae’n strategaeth lai defnyddiol pan fydd problemau’n parhau am amser hir a bod angen gweithredu, neu mewn sefyllfaoedd trawmatig iawn lle nad oes llawer o gymorth ar gael i reoli emosiynau, neu pan nad yw’n ddiogel mynegi teimladau i eraill.
Yn gyffredinol, mae a wnelo ymdopi â chydbwyso bygythiadau yn ein hamgylcheddau (straen) ac adnoddau (ffyrdd sydd ar gael i ymdopi)
Pan fyddwn yn sylwi bod digwyddiad yn fygythiad, rydyn ni’n ymateb yn reddfol trwy roi’r broses ymdopi ar waith. Os ydyn ni’n teimlo bod digon o adnoddau ymdopi gennym i ddelio â’r bygythiad a achosir gan y gofynion yn ein hamgylchedd, byddwn yn osgoi ymateb i’r straen. Fel arfer, mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio nifer o strategaethau i ymdopi. Mae’n bwysig ceisio peidio â dibynnu’n ormodol ar un strategaeth yn unig.
Gallwch ddysgu mwy am straen ac ymdopi ar ein tudalen
Efallai y bydd y gwefannau allanol hyn yn ddefnyddiol hefyd
Every Mind Matters GIG
Menter gan y GIG (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) yn Lloegr yw hon sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac awgrymiadau ymarferol ynghylch rheoli straen, pryder a materion iechyd meddwl eraill. Mae’r wefan yn cynnig cynlluniau hunanofal personol, adnoddau ar gyfer ymdopi â straen, a gwybodaeth am gael mynediad at wasanaethau cymorth iechyd meddwl.
Psychology Today – Get Help
Mae Psychology Today yn cynnig gwefan gynhwysfawr gydag erthyglau, adnoddau a dulliau ar gyfer ymdopi â straen. Ymdrinnir â phynciau amrywiol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles, gan gynnwys technegau rheoli straen, strategaethau ymdopi, a chyngor gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol.
HelpGuide
Mae HelpGuide.org yn darparu cyngor ac adnoddau ymarferol ar gyfer delio â straen, pryder a materion iechyd meddwl eraill. Mae eu gwefan yn cynnwys erthyglau, cwisiau ac adnoddau hunangymorth sydd wedi’u cynllunio i rymuso unigolion i ymdopi’n effeithiol â straen a gwella eu lles cyffredinol.