Endometriosis a phobl ag anableddau dysgu  

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl ag anableddau dysgu yn wynebu rhwystrau ychwanegol rhag cael diagnosis a gofal priodol, gan gynnwys pan ddaw at endometriosis, er enghraifft: 

  • Staff heb lawer o ddealltwriaeth o anableddau dysgu 
  • Methu ag adnabod pan fydd rhywun ag anabledd dysgu’n sâl 
  • Methu â gwneud diagnosis cywir 
  • Pryder neu ddiffyg hyder i bobl ag anabledd dysgu 
  • Diffyg cydweithio rhwng gwahanol ddarparwyr gofal 
  • Gofalwyr ddim yn cael digon o ymwneud 
  • ôl-ofal neu ofal dilynol annigonol. 

Mae Grŵp Seneddol Hollbleidiol y Deyrnas Unedig ar Endometriosis yn argymell y dylai fod gan bobl ag anghenion ychwanegol, fel anableddau dysgu, fynediad at wybodaeth ac adnoddau priodol i’r cleifion. 

Mae Endometriosis.Cymru wedi creu fersiynau ‘hawdd eu darllen’ sy’n cynnwys y wybodaeth fwyaf pwysig a pherthnasol ar y wefan. 

Mae Adroddiad y Grŵp Hollbleidiol hefyd yn argymell y dylid cynnal ymchwil pellach i gasglu mwy o wybodaeth am anghenion pobl ag anableddau dysgu, fel bod modd gwneud gwelliannau i’r gofal iechyd a’r cymorth a gynigir. 

Dim ond un dull yw darparu gwybodaeth hygyrch er mwyn mynd i’r afael â’r rhwystrau at ofal iechyd a nodwyd wrth ddatblygu’r wefan. Mae llawer o leisiau a chymunedau eraill sydd angen cael eu clywed os yw gofal iechyd am weithio cystal ag y gallai, i bawb. Ein nod yw parhau ag ymchwil i ddarparu cynnwys newydd ar gyfer y cymunedau yma maes o law. 

Mae mwy o wybodaeth am y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Endometriosis, gan gynnwys manylion cyswllt, ar gael yma