Cwis Empathi Fi a Ti Endometriosis Cymru

Mae’r cwis yn cynnig dwy ffordd i bobl ddisgrifio ansawdd eu bywyd o’u safbwynt nhw.

Rhowch gynnig ar y cwis empathi Fi a Ti

Drwy wneud y cwis gyda ffrind, perthynas neu gydweithiwr, byddwch yn cael cyfle i siarad am ansawdd eich bywyd a sut mae amgylchiadau bywyd (gan gynnwys iechyd) yn effeithio arnoch chi, eich perthnasau, a’ch gweithgareddau dyddiol.

Tynnwyd y cwestiynau o holiadur Ansawdd Bywyd Sefydliad Iechyd y Byd. Datblygwyd holiadur Sefydliad Iechyd y Byd i gynnig safbwynt newydd ar afiechyd. Cyn ei ddatblygu, dim ond o safbwynt corfforol fyddai pobl yn deall afiechyd (e.e. pa mor aml a difrifol yw symptomau corfforol), ond helpodd yr holiadur Ansawdd Bywyd i ddeall yr effaith roedd y symptomau yma, a’r salwch yn gyffredinol, yn ei chael ar fywydau pobl, drwy ofyn i bobl am eu perthnasau cymdeithasol, eu gallu i weithio, eu sefyllfa ariannol, a’u boddhad gyda’u bywydau.