August 22, 2023 Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl gydag anabledd i fyw, dysgu a gweithio ynddi. Rydyn ni’n chwarae rôl unigryw mewn gwneud i hyn ddigwydd – drwy ein gwasanaethau ein hunain, gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill a dylanwadu ar bolisi.
Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru, yn ymdrechu i sicrhau hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pobl anabl.
Rydym yn credu mewn Cymru iachach lle mae pobl yn cael y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.
Mae gan Endometriosis UK Gynllun Cyflogwyr Endometriosis Gyfeillgar sy’n cynorthwyo cyflogwyr i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol i bobl ag endometriosis.
Mae Sefydliad Safonau Prydain wedi creu canllawiau yn ddiweddar ar ‘Mislif, Iechyd Mislif, a’r Menopos yn y Gweithle’. Nod y canllaw yw rhoi cyngor ymarferol i gyflogwyr a’u helpu i greu mannau sy’n fwy cefnogol i weithwyr sy’n profi problemau sy’n gysylltiedig â’r cyflyrau yma.
April 20, 2021 Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac mae’n cynnig arweiniad a gofal ar gyfer problemau meddygol nad ydynt yn rhai brys.
March 24, 2021 Mae Endometriosis UK yn cynnal grwpiau cymorth ar-lein ac mewn lleoliadau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gwefan Budd-daliadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Gallwch gael cymorth i hawlio budd-daliadau gan Gyngor ar Bopeth neu Hawliau Lles yn eich awdurdod lleol (eich cyngor)
Mae’r Gwasanaeth Cyfraith Anabledd yn rhoi cymorth i bobl sy’n ceisio cael mynediad at gyfle cyfartal yn y gweithle.