Mae Sefydliad Safonau Prydain wedi creu canllawiau yn ddiweddar ar ‘Mislif, Iechyd Mislif, a’r Menopos yn y Gweithle’. Nod y canllaw yw rhoi cyngor ymarferol i gyflogwyr a’u helpu i greu mannau sy’n fwy cefnogol i weithwyr sy’n profi problemau sy’n gysylltiedig â’r cyflyrau yma.