Mae’n bosibl dod o hyd i gelloedd endometriosis ar organau atgenhedlu fel yr ofarïau a thiwbiau Fallopio, sy’n gallu achosi creithiau a chelloedd adlynol sy’n ‘glynu’ rhai o organau’r pelfis wrth ei gilydd. Mae hyn yn gallu eu hatal rhag gweithio yn yr un ffordd â rhywun sydd heb endometriosis. Hefyd, gallai endometriosis yn yr ofarïau (endometriomâu) effeithio ar ansawdd yr wyau y maen nhw’n eu cynhyrchu, fel eu bod nhw’n llai tebygol o ddatblygu’n llwyddiannus i fod yn fabi ar ôl ffrwythloni.

Diagram o ardal y pelfis benywaidd yn dangos y gall adlyniadau dynnu organau o’u safle
Bandiau o feinwe craith yw adlyniadau, sy’n gallu glynu organau at ei gilydd a thynnu organau o’u safle

Bandiau o feinwe craith yw celloedd adlynol sy’n gallu glynu organau wrth ei gilydd ac maen nhw’n gallu tynnu organau o’u safle.

Hefyd, mae endometriosis yn gallu achosi llid cronig y tu mewn i’r corff. Mae llid yn adwaith normal y corff i bethau a allai ei niweidio, fel anaf neu haint. Oherwydd bod celloedd endometriosis yn tyfu mewn mannau na ddylen nhw, mae’r ardal yn mynd yn llidus, gan ryddhau signalau poen, hormonau a gwrthgyrff er mwyn ceisio ymladd yn ôl. Mae’n bosibl bod y llid hirdymor hwn a’r straen y mae’n ei roi ar y corff yn gallu greu amgylchedd llai iach i wy gael ei ffrwythloni, ac i fabi dyfu.

Mae llawer o bobl sydd ag endometriosis yn oedi cyn dechrau teulu tan i’r endometriosis gael ei ddatrys. O ystyried pa mor hir mae’n gallu ei gymryd weithiau i gael diagnosis a thriniaeth endometriosis, mae pobl yn aml yn dechrau ceisio beichiogi’n hwyrach na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 30 oed. Yn anffodus, mae ffrwythlondeb yn dirywio gydag oedran, yn enwedig ar ôl 34 oed. Felly, mae endometriosis yn gallu effeithio ar ffrwythlondeb oherwydd ei fod yn gwneud i bobl ddechrau ceisio beichiogi pan fydd eu ffrwythlondeb wedi dechrau dirywio’n barod.