Fel arfer, mae ‘llawdriniaeth endometriosis’ yn cyfeirio at laparosgopi: llawdriniaeth sy’n golygu cael gwared ar gymaint â phosibl o unrhyw glytiau o endometriosis a meinwe craith sydd yn y pelfis.

Mae astudiaethau wedi dangos bod pobl â phroblemau anffrwythlondeb yn fwy tebygol o feichiogi ar ôl llawdriniaeth endometriosis na’r rhai a oedd heb gael y llawdriniaeth. Am y rheswm hwn, mae’n gyffredin i bobl ag endometriosis (neu’r rhai y mae meddygon yn amau bod y cyflwr arnyn nhw) gael eu hatgyfeirio i gael llawdriniaeth laparosgopig fel rhan o’u triniaeth ffrwythlondeb.

Yn ystod y llawdriniaeth, dylai’r llawfeddyg allu archwilio gwahanol rannau o’r organau atgenhedlu i weld a oes unrhyw endometriosis yn tyfu yno, ac a yw wedi achosi unrhyw greithiau neu gelloedd adlynol. Bydd hyn yn rhoi syniad i’r llawfeddyg i ba raddau y gallai endometriosis effeithio ar siawns y claf o feichiogi. Yn gyffredinol, po fwyaf helaeth yw’r endometriosis, y mwyaf tebygol yw y bydd effaith ar ffrwythlondeb.

Os yw’r llawdriniaeth yn laparosgopi ‘gweld a thrin’, bydd y llawfeddyg yn ceisio tynnu cymaint â phosibl o’r celloedd a’r difrod y mae’n gallu eu gweld yn ystod y llawdriniaeth. Dylai hyn ei gwneud yn haws i wyau gyrraedd y groth yn llwyddiannus a rhoi amgylchedd iachach i’r wy gael ei ffrwythloni. Os yw’r llawdriniaeth yn laparosgopi diagnostig, efallai y bydd angen cyfeirio’r claf i gael llawdriniaeth arbenigol ychwanegol er mwyn tynnu’r celloedd yn nes ymlaen.

Mae llawer o ffactorau eraill yn gysylltiedig â beichiogi na fyddai llawdriniaeth laparosgopig yn gallu eu gweld. Er enghraifft, fydd y llawfeddyg ddim yn gallu gweld faint o wyau sydd y tu mewn i’r ofarïau neu’n gallu dweud pa mor debygol fyddai’r wyau hynny o ffrwythloni.

Hefyd gallai gynaecolegydd awgrymu dechrau triniaethau eraill er mwyn gwella’r siawns o feichiogi ar ôl y llawdriniaeth, er enghraifft, ffrwythloni in vitro (IVF).