Dydy llawer o bobl sydd ag endometriosis ddim yn dweud eu bod nhw’n cael problemau’n beichiogi felly os yw rhywun yn cael rhyw ac wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu fel y bilsen neu gondomau, mae’n bosibl y bydd yn beichiogi. Mae hyn hefyd yn wir os yw’n defnyddio ffyrdd eraill o feichiogi, fel ffrwythloni artiffisial.

Ar yr un pryd, rydyn ni yn gwybod y gall cael endometriosis effeithio ar ffrwythlondeb (gallu rhywun i feichiogi). Mae tua 20 i 40% o bobl ag endometriosis yn dweud bod yn cael problemau o ran beichiogi, felly dyma un o’r achosion mwyaf cyffredin o anffrwythlondeb yn y DU. I rai pobl, efallai mai anffrwythlondeb yw eu prif symptom. Yn wir, dim ond ar ôl ceisio am fabi am gryn amser heb lwyddiant y mae llawer o bobl yn clywed am endometriosis.

Hefyd, mae ffactorau fel oedran, pwysau a’u hiechyd corfforol cyffredinol yn gallu effeithio ar eu siawns o feichiogi p’un a oes endometriosis arnyn nhw ai peidio.

Darllenwch ragor am hyn yn nhaflen ffeithiau Endometriosis UK, Endometriosis, Fertility and Pregnancy.