Canllawiau NICE ar wneud diagnosis a rheoli endometriosis

Cynhyrchodd NICE y canllawiau hyn ar gyfer meddygon ym Mhrydain sy’n ymdrin â diagnosis a rheoli endometriosis, a’r nod yw codi ymwybyddiaeth o symptomau endometriosis a rhoi cyngor clir ar ba gamau ddylid eu cymryd pan fydd menywod ag arwyddion a symptomau yn dod i leoliadau gofal iechyd am y tro cyntaf.