Mae Karen yn fyfyriwr meddygaeth ac yn ei blwyddyn olaf o astudio cyn iddi raddio. Mae gan Karen endometriosis ac mae wedi profi symptomau ac amgylchiadau heriol drwy gydol ei haddysg, yn yr ysgol a’r brifysgol. Isod, mae Karen yn trafod ei phrofiadau ac yn rhannu ei stori am reoli’r cyflwr cronig yma.
“Mae delio â symptomau endometriosis, fel poen mislif eithafol, wedi effeithio ar fy addysg mewn ffyrdd amrywiol. O fethu’r ysgol pan o’n i’n iau, i fethu darlithoedd pan ddechreuais i yn y brifysgol, dydy rheoli salwch yn ystod fy addysg (ac yn gyffredinol) heb fod yn hawdd. Dw i wedi wynebu llawer o rwystrau rhag cael cymorth mewn cyd-destunau meddygol ac addysgol.
Mae meddygon teulu wedi gwrthod fy atgyfeirio, ac wedi mynd mor bell â gwneud i fi lenwi holiadur iechyd meddwl i brofi mai angen gwrthiselyddion o’n i ar gyfer fy mhoen, ac nid cyffuriau lladd poen oedd yn gryfach na pharasetamol ac ibuprofen. Wnaeth pethau ddim gwella llawer pan gyrhaeddais i ofal trydyddol yn y pen draw (a wynebu’r rhestrau aros hirfaith). Mae hyn i gyd wedi cyfrannu at y rhwystrau dw i wedi’u hwynebu mewn addysg, yn enwedig yn y brifysgol.
Wrth geisio cael addasiadau yn fy ngradd, yn aml gwnaed i fi deimlo nad oedd fy mhrofiadau iechyd yn ddilys, ac fy mod i’n bod yn anodd. Ond eto, doeddwn i ddim eisiau bod yn ‘afresymol’ neu’n ‘anodd’, ro’n i eisiau cydweithio i ddod o hyd i ddatrysiad. Yn hytrach, ro’n i’n teimlo fel pe bawn i’n gweithio yn erbyn y system a’r bobl sy’n ei chynrychioli, boed hynny y GIG neu’r brifysgol. Afraid dweud, roedd y trawma’n real. Cymerodd lawer o amser i fi brosesu a deall nad oedd y bobl oedd yn gwneud i fi deimlo nad oedd fy mhrofiadau iechyd yn ddilys yn ceisio fy nhanseilio – weithiau dydy pobl ddim yn gwybod sut i helpu os nad yw’r fframwaith presennol yn gweithio. Ro’n i’n teimlo y byddai wedi helpu llawer pe bai yna fwy o empathi, caredigrwydd a dealltwriaeth, yn ogystal ag esboniad clir o’r opsiynau a’r cyfyngiadau o ran beth allai’r system ei wneud, mewn lleoliadau addysg a meddygol.
Ar ôl cael trafferthion parhaus gyda chefnogaeth annigonol, penderfynais fod angen i fi gymryd seibiant o fy astudiaethau prifysgol. Roedd hyn yn benderfyniad anodd iawn i fi, gan fy mod i’n teimlo fy mod i’n rhoi’r gorau i bopeth ro’n i wedi gweithio’n galed tuag ato, fel pe bawn i’n methu mewn bywyd. Wrth edrych ’nôl, cymryd blwyddyn allan oedd y peth gorau y gallwn i fod wedi’i wneud ar gyfer fy iechyd corfforol a meddyliol. Rhoddodd amser i fi fod adre gyda fy nheulu, i fod yn fi fy hunan – fi fel person, ac nid fi fel myfyriwr neu glaf.
Roedd mawr angen y seibiant er mwyn i fi allu gweld, wrth geisio aros ar ben pethau – cadw ar ben fy astudiaethau ond yn dal i gwympo tu ôl, ymladd am apwyntiadau gyda’r meddyg, ond cyrraedd unman yn yr apwyntiad; gofalu am fy hunan, ond heb fod â’r egni i gael cawod hyd yn oed – ro’n i’n cyflawni llai yn y pen draw ac yn niweidio fy hunan yn fwy yn gorfforol ac yn feddyliol. Drwy geisio gwella, fe wnes i leihau fy hunan i ddim byd ond hunaniaeth myfyrwraig – myfyrwraig oedd yn cwympo tu ôl, a chlaf – oedd yn cael ei gweld fel person anodd a oedd yn cwympo tu ôl gyda’i thriniaeth. Doedd dim syndod fy mod i’n teimlo fel methiant.
Yn y flwyddyn honno o seibiant, yn blaenoriaethu fy hunan, ro’n i’n teimlo’n fwy fel person, ac nid fel myfyriwr neu glaf yn unig. Dysgais sut i dderbyn a dilysu fy hunan; dysgais sut i wrando ar fy nghorff – yn aml mae ’na arwyddion rhybudd cyn i fy symptomau ddod i’r amlwg, sy’n hawdd eu hanwybyddu pan fyddwch chi wedi’ch cyflyru i wneud hynny (er mwyn goroesi) – a dysgais sut i wahaniaethu rhwng gorffwys a gwella. Nid gorffwys yw gwella. Wrth gymryd amser i wella, dw i’n dal i ymladd brwydr dawel. Gorffwys yw’r amser dw i’n ei dreulio gyda fy ffrindiau, fy nheulu, a fy hunan i ail-bweru fy egni.
Yn bwysicaf oll, dysgais addasu i’r ansicrwydd sy’n dod gydag endometriosis, drwy newid fy mydolwg. Yn lle ei chael hi’n anodd derbyn beth sy’n digwydd, dw i’n gofyn i fy hunan beth sydd ei angen arna i i gefnogi fy hunan. Efallai nad oes modd i fi newid y sefyllfa dw i ynddi, ac alla i ddim rhagweld sut mae fy nghyflwr yn effeithio ar fy mywyd a fy astudiaethau, ond galla i ganiatáu fy hunan i deimlo’n drist, i deimlo’n rhwystredig, i deimlo trueni dros fy hunan ar fy niwrnodau gwael, gan aros yn obeithiol am y dyddiau da. Bydd yn pasio. Os na fydd yn pasio, mae gen i ffydd yn fy hunan y galla i ddatblygu mwy o sgiliau a meddylfryd a fydd yn fy helpu i addasu i’r sefyllfa. Galla i dyfu tu hwnt i’r sefyllfa.
Er bod pethau wedi bod yn anodd iawn i fi ar adegau drwy gydol fy addysg uwch, dw i’n ddiolchgar am y persbectif ges i. Dw i bellach ym mlwyddyn olaf yr ysgol meddygaeth, a bydda i’n graddio ym mis Gorffennaf. Fel meddyg, bydda i’n gwybod drwy brofiad mor bwysig yw hi i gleifion deimlo wedi’u dilysu, a sut, mewn llawer o ffyrdd, gall hyn wella eu gofal yn gyffredinol. Yn bwysicach byth, dw i’n cydnabod y galla i fod yn feddyg un dydd, ac yn glaf y diwrnod nesaf, ac mae hynny i gyd yn iawn. Dw i’n fwy na fy swydd, fy salwch, neu fy nghynhyrchedd.”