Stori Dee

Mae Dee yn ffeminydd gwiar ac anabl sy’n angerddol am gynwysoldeb a thegwch. Mae Dee’n gweithio fel swyddog ymgysylltu gyda’r mudiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, ac yn ddiweddar cafodd ragoriaeth yn ei gradd MA mewn ysgrifennu creadigol.  

Mae Dee wedi cael diagnosis o endometriosis ac adenomyosis, ac ar ôl cael ffisiotherapi pelfig gwelodd effaith sylweddol a chadarnhaol, gan ei galluogi i reoli ei symptomau.

Dee a Ffisiotherapi Pelfig

“Profais i oedi o dros 20 mlynedd cyn i fi gael diagnosis o endometriosis ac adenomyosis, sydd hefyd wedi achosi i fi ddatblygu problemau iechyd eraill. Wrth edrych ’nôl, ro’n i’n meddwl fy mod i’n rheoli fy symptomau cystal ag y gallwn i o dan yr amgylchiadau, ond ar ôl cael ffisiotherapi pelfig, sylweddolais i fod yna bethau eraill y gallwn i eu gwneud.  

Fel llawer o gleifion endometriosis/adenomyosis, roedd fy mhledren a fy ngholuddyn yn rhan o’r broblem hefyd, a oedd yn golygu fy mod i’n profi llawer o boen wrth fynd i’r tŷ bach. Heb sylweddoli’r peth, bydden i’n osgoi mynd i’r tŷ bach – yn enwedig i bi-pi. Roedd yr effaith gafodd hyn ar fy mhledren yn enfawr, oherwydd ro’n i fwy neu lai wedi hyfforddi fy mhledren i beidio gwybod pryd oedd angen i fi fynd. O ganlyniad, cyn i fi gael fy hysterectomi, ro’n i’n profi anymataliaeth y bledren. Bydden i hefyd yn teimlo fel pe bawn i bron â marw angen mynd i’r tŷ bach, ac yna dim ond ychydig ddiferion fyddai’n dod. Digwyddodd yr un peth gyda fy ngholuddyn – mae cysylltiad y coluddyn gydag endo yn gallu bod yn boenus iawn, ac mae’n gallu achosi’r hyn maen nhw’n ei alw’n rhwymedd teithio araf – byddwn i’n cael trafferth mawr yn mynd i’r tŷ bach, a weithiau byddwn i yno am hyd at awr, yn trio mynd.  

Dechreuais i ffisio pelfig yn breifat yn gyntaf (hynny yw, ddim trwy’r GIG). Gwelais i rywun yn crybwyll mor fanteisiol allai fod yn y grŵp cymorth FTWW, a wnaeth agor fy meddwl i roi cynnig arno. O’r blaen, ro’n i’n meddwl bod ffisio pelfig ar gyfer cleifion ag anafiadau geni neu broblemau’n ymwneud â beichiogrwydd, a wnes i ddim sylweddoli y byddai’n berthnasol i fi, fel claf endo/adeno nad oedd wedi bod yn feichiog. Nawr, dw i’n gweld ei fod wir yn berthnasol, a chymaint y gall cleifion poen cronig elwa arno.  

Cwrddais â fy ffisiotherapydd preifat drwy Zoom oherwydd roedden ni mewn cyfnod clo (Covid-19). Ro’n i’n amheus iawn am y peth i ddechrau, a doedd gen i ddim syniad sut byddai’n gweithio ar-lein – ond fe wnaeth e, ac roedd e’n wych! Fe wnaethon ni ailhyfforddi fy mhledren yn llwyr, a gwella’r boen yn fy ngholuddyn. Roedd rhai o’r ymarferion ro’n i fod i’w gwneud gartre yn cynnwys cadw dyddiadur pledren ac yfed lefel benodol o hylif, ac yna fesur fy allbwn. Dysgais hefyd am dechnegau ymlacio a thylino, gan fod poen cronig yn gallu arwain at dynhau’r cyhyrau pelfig, sy’n gallu achosi problemau pellach.    

Cefais ffisio pelfig yr ail dro drwy’r GIG ar ôl i’r nyrs endometriosis yn fy mwrdd iechyd fy atgyfeirio i ar sail mwy holistig, sy’n golygu eu bod yn edrych ar sawl pryder iechyd gyda’i gilydd, yn lle fel problemau ar wahân, a cafodd atgyfeiriadau eu gwneud ar y sail yma. Er enghraifft, nid yn unig cefais i fy atgyfeirio at ffisio pelfig, cefais fy atgyfeirio hefyd at arbenigwr poen i ragnodi cyffuriau lleddfu poen digonol, a nyrs arbenigol y coluddyn, a wnaeth sicrhau fy mod i’n cael ymchwiliadau ychwanegol a hefyd wnaeth ragnodi citiau dyfrhau’r coluddyn i fi, oedd yn ddefnyddiol iawn.  

Dim ond ychydig wythnosau gymerodd yr atgyfeiriad at y ffisio pelfig, ac es i i’r apwyntiadau wyneb yn wyneb. Roedd yr apwyntiadau’n canolbwyntio ar roi ymarferion ac ymestyniadau y gallwn i eu gwneud yn fy amser fy hunan, a phan o’n i’n teimlo’n ddigon da i’w gwneud nhw. Dw i’n defnyddio cadair olwyn i fynd o le i le y dyddiau yma, felly dw i’n eistedd llawer ac mae rhai mathau o ymarferion yn gallu bod yn anodd oherwydd cymhlethdodau eraill gyda fy iechyd (yn bennaf enseffalomyelitis myalgig (ME), arthritis, a ffibromyalgia). Fe wnaeth y ffisio gadw hyn mewn cof a theilwra’r ymarferion a’r ymestyniadau i hyn. Er enghraifft, fe ddysgais i ymarferion eistedd ac ymestyniadau ysgafn i’w gwneud pan fydda i’n sefyll am gyfnodau byr (fel pan fydda i’n gwneud paned).  

Mae’r ymarferion ffisiotherapi pelfig yma wedi cyfrannu at newid y ffordd dw i’n gweld ac yn ymdrin â fy ngofal er gwell. Cynigiodd y ddau ffisiotherapydd lawer o gymorth i fi, ac roedden nhw’n gwrando ar bopeth ro’n i’n ei ddweud – gan barchu beth ro’n i eisiau ei wneud neu y gallwn i ei wneud, a beth nad oeddwn i. Fe wnaeth y profiadau ges i gyda nhw fy ngrymuso i i gymryd mwy o reolaeth o fy iechyd a fy helpu i reoli fy iechyd fy hunan ar sail mwy hirdymor, drwy roi’r sgiliau i fi allu gwneud hynny. Er enghraifft, dw i nawr yn sylwi pan fydda i’n dechrau mynd yn ôl at yr arfer o beidio mynd i’r tŷ bach yn aml iawn, ei ddal i mewn, a dw i nawr yn gwybod pa ymarferion sy’n fy helpu i reoli unrhyw boen dw i’n ei phrofi.   

Pan fydda i’n edrych yn ôl ar fy mhrofiadau iechyd, ac ar yr oedi dw i wedi’i brofi gyda chael diagnosis, gall deimlo’n rhwystredig iawn. Roedd cymaint o’r hyn ro’n i’n ei brofi yn amlwg, yn enwedig endometriosis y coluddyn. Dw i hefyd yn credu ei bod hi’n drueni bod llawer o ddifrod eisoes wedi’i wneud i fy organau erbyn i fi ddechrau ffisiotherapi pelfig, ond pe bawn i wedi ei gael yn gynharach yn fy ngofal, efallai y byddai wedi bod yn fesur ataliol (hynny yw, i atal sensiteiddio canolog ac anymataliaeth).  

Ar y cyfan, roedd ffisio pelfig yr un mor fuddiol â’r llawdriniaeth i fi o ran rheoli fy symptomau – mewn gwirionedd, dw i’n credu ei fod wedi fy helpu i gadw fy iechyd pelfig i’r pwynt nad ydw i wedi bod angen llawdriniaeth arall hyd yma. Mae’n hanfodol bod y GIG yn datblygu mwy o lwybrau poen pelfig ac yn sicrhau bod gan gleifion endo fynediad at ffisiotherapi pelfig os oes ei angen arnyn nhw – yn enwedig os ydyn nhw ar restrau aros hir am apwyntiadau neu lawdriniaethau.

Mae angen gwneud llawer mwy i gleifion endometriosis/adenomyosis o ran cael mynediad at wahanol agweddau ar ofal a gwybodaeth ddibynadwy am iechyd.  Mae’n gallu bod yn anodd iawn i gleifion – yn enwedig cleifion endometriosis ac adenomyosis – nodi pa opsiynau rheoli symptomau ddylen nhw neu na ddylen nhw eu trio mewn môr o wybodaeth a safbwyntiau gwahanol. Yn enwedig pan fydd hyn yn cael ei waethygu gan brofiadau negyddol gyda gofal iechyd, sy’n gwneud i chi deimlo’n rhy flinedig i drio unrhyw beth ond y ‘driniaeth safon aur’, sef llawdriniaeth toriad.  

Dw i’n gobeithio y bydd mwy o waith yn parhau i ddigwydd i gael mwy o wybodaeth hygyrch allan yna i BAWB. Ar y nodyn yna, cofiwch gymryd cipolwg ar y model cymdeithasol o anabledd, gan fod gwybodaeth fel hyn wedi fy helpu i brosesu’r wybodaeth iechyd sydd eisoes allan yna, mewn modd mwy cadarnhaol a grymus. Mae wedi fy helpu i i fod yn fwy caredig gyda fy hunan, sydd yn ei dro wedi fy helpu i chwilio a rhoi cynnig ar bethau newydd i gefnogi fy hunan a rheoli fy iechyd.”