Stori Amy

Mae Amy’n 39 oed, yn byw gyda’i chi pyg hyfryd Blaise ac yn gweithio yn Admiral –  sy’n gyflogwr endometriosis-gyfeillgar. Yn ei hamser hamdden, mae Amy’n rhedeg tudalen gefnogaeth endometriosis ar Instagram sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o endometriosis a chyflyrau eraill sy’n gysylltiedig ag endometriosis.  Mae Amy bob amser yn chwilio am ffyrdd o eirioli dros bobl sydd ag endometriosis a helpu i ddarparu llais i’r rhai nad ydyn nhw’n cael eu clywed.

Amy, endometriosis, a gwaith

“Dechreuais i brofi symptomau difrifol pan ddechreuais i fy mislif yn 13 oed. Roedd fy mislif yn boenus a thrwm iawn, i’r pwynt na allwn i godi o’r gwely neu fynd i’r ysgol, a doedd y cynnyrch mislif safonol ddim yn ddigon i ddal y llif. Byddwn i hefyd yn profi problemau cysylltiedig gyda’r coluddyn, fel crampiau ofnadwy yn ystod wythnos fy mislif ac yna’r wythnos ganlynol. Dw i’n cofio teimlo’n unig iawn, gan nad oedd dim un o fy ffrindiau’n dioddef fel hyn, ac roedd fy nheulu (doedden nhw ddim yn gwybod yn well ar y pryd) yn mynnu bod hyn yn normal. Er fy mod i’n gwybod bod rhywbeth o’i le, doedd gen i ddim y wybodaeth i ddeall na chyfleu beth oedd yn digwydd.  

Roedd hyn yn cael ei waethygu gan feddygon yn dweud wrtha i fod fy symptomau’n normal, ac “nad o’n i’n sbesial, mae angen i ti ddelio â’r peth” – gwnaeth hyn fy achosi i deimlo fel pe bawn i’n gwastraffu amser y meddyg a thaw “yn fy mhen” oedd y boen. Serch hyn, rhwng 13 a 18 oed, fe wnes i barhau i geisio cymorth a chefais i ddiagnosis o IBS ac iselder. Dechreuais i gredu taw dyna o’n i’n delio gydag e, oherwydd dyna ddywedodd y meddygon proffesiynol wrtha i. Ond tu mewn, ro’n i’n gwybod bod rhywbeth ddim yn iawn ac nad IBS oedd hyn, ro’n i mewn poen difrifol na allwn ni ei reoli bob dydd.  

Fe gefais drafferth yn ceisio gorffen y brifysgol gan fy mod i mor sâl, ac felly roedd yn rhaid i fi newid fy llwybr gyrfa’n llwyr. Am gyfnod, ro’n i’n gwneud swyddi nad o’n i wir eisiau eu gwneud, ond fe effeithiodd fy iechyd arnyn nhw hefyd. Ro’n i bob amser yn teimlo mewn perygl o golli fy swydd oherwydd pethau fel diwrnodau o’r gwaith oherwydd salwch a’r cyflogwyr ddim yn deall (neu ddim yn trio deall hyd yn oed) beth ro’n i’n ei brofi. Ro’n i’n teimlo na allwn ni drio am ddyrchafiadau gan y byddwn i’n cael fy niystyru oherwydd y nifer o ddyddiau salwch ro’n i wedi’u cymryd. 

Drwy gydol fy ugeiniau, wrth i fy symptomau waethygu a fy iechyd ddirywio, byddai gweithwyr meddygol proffesiynol yn fy gaslightio, a wnaeth arwain wedyn at fy nghyflogwyr a fy rhwydwaith cymorth yn credu nad oedd dim byd yn bod arna i. Dechreuais i golli llawer o waith oherwydd fy iechyd. Roedd fy nghyflogwyr ar y pryd yn aml yn anghwrtais am yr amser o’r gwaith oedd ei angen arna i, ac yn dweud fy mod i’n dweud celwyddau. Anfonon nhw fi at iechyd galwedigaethol, a wnaeth adolygu fy ffeiliau a dweud yr un peth. Ceisiais egluro fy mod i’n cael trafferth gyda theithio i’r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd fy symptomau a’r effaith roedden nhw’n ei chael arna i (hynny yw methu symud gyda phoen, ac angen mynd i’r tŷ bach yn sydyn, nad oedd yn bosib ar drafnidiaeth gyhoeddus), ond roedd y cyfan yn ofer.  

Yn y pen draw, des i o hyd i yrfa ro’n i wir eisiau ei gwneud, gyda rheolwyr mwy hyblyg, ac ro’n i’n gallu gweithio gartref ychydig yn amlach; ro’n i’n gwneud yn dda iawn. Ond, ymhen 4 mlynedd o wneud y swydd (a oedd yn eitha beichus), roedd yn rhaid i fi stopio – roedd fy iechyd wedi dirywio’n ddifrifol erbyn hyn. Ar y pryd, ro’n i’n byw ym Manceinion a phenderfynais ei bod hi’n bryd symud ’nôl i Gaerdydd i gael mwy o gefnogaeth gan fy nheulu.

Yn ffodus, cefais i swydd gydag yswiriant iechyd preifat – ac ar ôl 25 mlynedd o gamddiagnosis, galluogodd hyn fi i gael diagnosis o endometriosis ac adenomyosis – a rheolwr benywaidd oedd yn deall ac yn cydymdeimlo â’r hyn ro’n i’n ei brofi, ar ôl profi problemau iechyd ei hunan. Cafodd addasiadau eu gwneud i fy helpu i gydag agweddau penodol o fy swydd pan fyddwn i’n profi symptomau. Er enghraifft, pan o’n i’n llunio’r cofnodion mewn cyfarfodydd, byddwn i’n cael Dictaffon, a oedd yn golygu pe bai angen i fi adael gallwn i bwyso’r botwm recordio (gan ddarparu ar gyfer fy anghenion meddygol a lleihau straen gan nad oedd angen i fi boeni am ddal i fyny gyda’r llwyth gwaith neu fethu â mynd i’r tŷ bach pan oedd angen i fi).  

Yn anffodus, er gwaetha’r amgylchedd cefnogol, roedd meysydd amrywiol lle nad oedd hyn yn gyson â’u polisïau gweithle ar y pryd. Er enghraifft, ar ôl tair llawdriniaeth mewn deunaw mis, roedd angen hysterectomi arna i. Dywedwyd wrtha i fod yn rhaid i fi fynd ar gynllun gwella perfformiad salwch, a doedd gen i ddim hawl i gymryd diwrnod salwch arall am y 12 mis nesaf, er eu bod nhw’n gwybod fy mod i ar fin cael llawdriniaeth fawr. Roedd Iechyd Galwedigaethol wedi’u cythruddo gan hyn, ac fe roddon nhw gyngor ar sut gallai fy nghyflogwr wneud addasiadau i fy nghefnogi yn y gweithle, ond ni chafodd hyn lawer o effaith yn erbyn eu polisïau gweithle.  

Tra bod hyn yn digwydd, ro’n i’n cael cyfweliadau yn Admiral – fel arfer bydden i ddim eisiau bod yn agored am gyflyrau iechyd rhag ofn y bydden nhw’n gwahaniaethu yn fy erbyn, ond ro’n i’n gwybod bod Admiral yn meithrin amgylchedd cynhwysol a’u bod nhw’n ymwybodol o endometriosis ar draws y cwmni, felly ro’n i’n teimlo bod modd i fi fod yn fwy agored a gonest. Ro’n i hefyd yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad am beth oedd yn digwydd gyda fy iechyd nawr fy mod i’n gwybod beth ro’n i’n ei brofi.  

O’r dechrau un, cyn i fi gael cynnig swydd hyd yn oed, roedd Admiral yn gwbl gefnogol. Cefais gynnig y swydd ar ddiwrnod fy llawdriniaeth, ac ers hynny, mae’r cwmni wedi gofalu amdana i a fy nghefnogi i’n llawn. O anfon blodau i fi ar ôl y llawdriniaeth (cyn i fi hyd yn oed ddechrau na derbyn y swydd!), i asesu a darparu addasiadau a allai fod eu hangen arna i, mae Admiral wedi bod yn wych. Mae addasiadau o’r fath yn cynnwys darparu offer gwaith a fydd yn lleddfu fy mhoen o’r difrod nerfau, a gweithio cwbl hyblyg (gan fy ngalluogi i wneud apwyntiadau meddygol a gweithio o gwmpas fy mhroblemau iechyd). Mae cael eich clywed, mewn amgylchedd gweithio cefnogol sy’n cydnabod difrifoldeb endometriosis ac sy’n cysoni eu polisïau â hyn, yn drawsnewidiol.  

Mae gweithio mewn cwmni sydd mor gefnogol o fy mhrofiadau iechyd ac sy’n gyflogwr endometriosis-gyfeillgar yn wahanol iawn i ddim byd dw i wedi’i brofi o’r blaen. Pan ddaw at ddelio â phroblemau iechyd yn y gweithle, dylai cymorth, addasiadau a pholisïau sy’n cynnal y pethau yma fod yn norm, ac nid yn beth prin”.

Cyngor Amy i gyflogwyr

  • Hyfforddiant gorfodol i reolwyr ar faterion iechyd benywaidd – dylai fod gan bob rheolwr ddealltwriaeth o sut i gefnogi menywod a’r rhai a ddynodwyd yn y categori benywaidd adeg eu geni (AFAB) ar wahanol gamau yn eu bywydau (hynny yw yn y menopos, beichiogrwydd, triniaeth hormonaidd) yn ogystal â mewn adegau o salwch. Yn aml, mae menywod a’r rhai a roddwyd yn y categori rhyw benywaidd adeg eu geni yn wynebu rhwystrau rhag cael gofal iechyd priodol o gymharu â dynion. Gall hyn gael effaith negyddol iawn ym mhob agwedd ar eu bywydau.
  • Gwnewch yn siŵr bod polisïau eich gweithle yn gyson â’ch gweithredoedd – os oes gennych chi bolisïau gweithle ardderchog ar waith i sicrhau bod cydweithiwr â salwch wedi’u cefnogi, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu rhoi ar waith. Yn yr un modd, er ei bod hi’n wych bod aelodau staff fel rheolwyr yn gefnogol ac yn anelu at wneud addasiadau, dylai eich polisïau gyd-fynd â hyn er mwyn ei alluogi!  
  • Yn ddelfrydol, dylid cynnig gofal iechyd preifat, ond os nad oes modd gwneud hyn, dylai cymorth / adnoddau i bobl ar restrau aros fod ar gael i weithwyr.
  • Darparu gofodau cyfforddus lle gall rhywun fynd – gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn i weithwyr y mae angen lle preifat neu dawel arnyn nhw i gael eu poen neu symptomau eraill dan reolaeth.  

Cyngor Amy ar reoli symptomau yn y gweithle

  • Siaradwch â rhywun, os oes modd – Gall endometriosis fod yn gyflwr unig gan y gall y symptomau rydyn ni’n eu profi beri embaras wrth siarad amdanyn nhw, yn enwedig â phobl sydd heb endometriosis. Ond, mae’r bobl gywir i siarad gyda nhw allan yno, a gallan nhw helpu i’ch cefnogi chi neu eich grymuso chi gyda’r wybodaeth i gefnogi eich hunan ymhellach.  
  • Crëwch becyn cymorth poen neu endometriosis – Beth yw eich dull lladd poen delfrydol (hynny yw meddyginiaeth neu beiriannau TENS), eitem(au) dillad neu dechnegau rheoli symptomau? Mae’n syniad da creu rhestr a pharatoi’r pethau yma ymlaen llaw yn barod ar gyfer pan fyddwch eu hangen.  
  • Gwiriwch bolisïau eich gweithle – mae’n syniad da paratoi eich hunan gyda’r wybodaeth am yr hyn sydd ar gael i chi yn y gweithle. Weithiau, ac yn anffodus, efallai nad yw cyflogwyr yn sylweddoli beth allan nhw ei roi ar waith tan i chi dynnu eu sylw ato.