Anweledigrwydd

Mae endometriosis yn gyflwr anweledig. Fyddech chi ddim yn gallu dweud bod rhywun yn byw gydag endometriosis drwy edrych arnyn nhw. Ond dydy’r ffaith nad ydych chi’n gallu gweld rhywbeth ddim yn golygu nad yw yno.

Mae endometriosis yn gyflwr lle mae celloedd i’w cael mewn llefydd yn y corff na ddylen nhw fod. Mae’n hollol fewnol. Nid yw’n dangos symptomau o reidrwydd, ond pan fydd symptomau, gallan nhw effeithio’n ddifrifol ar y bobl sydd â’r cyflwr, a sut maen nhw’n byw eu bywydau.

Diagnosis

Mae endometriosis yn adnabyddus am fod yn anodd gwneud diagnosis ohono. Mae’r symptomau’n gallu amrywio’n sylweddol rhwng pobl, sy’n ei gwneud hi’n anodd ei adnabod.

Os yw gweithwyr proffesiynol yn defnyddio teclynnau diagnostig fel peiriant uwchsain, nid yw’n sicr y bydd yn gallu dod o hyd i’r endometriosis. Felly, mae llawer o bobl yn dychwelyd ar ôl cael sgan heb weld unrhyw beth anghyffredin.

Distawrwydd

Yn ogystal â bod yn anweledig yn gorfforol, mae endometriosis hefyd yn arwain at broblemau eraill nad oes modd eu gweld.
Un broblem yw’r ffaith mai prin y bydd pobl yn siarad amdano. Felly, nid yw yn ymwybyddiaeth y cyhoedd. Caiff hyn ei waethygu gan y ffaith nad yw pobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn teimlo y gallan nhw fod yn agored amdano bob amser. Dydy hyn ddim yn syndod, o ystyried bod pobl yn aml yn diystyried endometriosis fel ‘mislif gwael’, os bydd pobl yn siarad amdano o gwbl.

Ac mae hyn yn digwydd o fewn teuluoedd hyd yn oed. Er bod endometriosis weithiau’n etifeddol, nid yw’n anghyffredin i genedlaethau hŷn o fenywod ddiystyru’r boen, gan gredu ei fod yn normal. Ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid ymdopi ag e. Felly mae’r diystyrwch o’r salwch, a’r symptomau mae’n eu hachosi, yn parhau o genhedlaeth i genhedlaeth.

Gall y distawrwydd a’r camddealltwriaeth am endometriosis hefyd gael effaith negyddol ar iechyd meddwl. Gall pobl sy’n byw gyda’r cyflwr deimlo’n ynysig, ac fel pe na bai pobl eraill yn deall eu poen.

Bod yn agored

Ymhlith y bobl ag endometriosis sy’n cyfrannu at y prosiect yma, mae yna farn gyffredin y dylid annog pobl i siarad am y cyflwr yn agored. Does dim un ohonyn nhw’n barod i ddioddef mewn distawrwydd mwyach, ac maen nhw’n annog pobl sy’n profi symptomau i ofyn am gymorth. Mae bob amser rhywun y gallwch chi siarad â nhw. Mae bob amser rhywun a fydd yn eich credu chi.

Drwy siarad mwy am endometriosis, drwy fod yn agored am y peth, rydyn ni’n gobeithio ei gwneud hi’n iawn cael y math yma o sgwrs. Codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr. Gwneud yr anweledig yn weladwy.