Julia – Anifeiliaid Cymdeithasol

Cafodd Julia ddiagnosis o endometriosis yn 44 oed. Doedd hi erioed wedi clywed am y cyflwr cyn hynny, ac roedd hi wedi bod yn byw gyda’r symptomau ers 30 mlynedd. Gan nad oedd yr endometriosis wedi’i gadw dan reolaeth, roedd wedi lledaenu at organau fel ei stumog, ei diaffram a’i hysgyfaint.

Yn y dechrau un, cyn y diagnosis, doeddwn i ddim yn ymdopi’n dda iawn dw i ddim yn meddwl… Ond nawr mae dau beth dw i’n dibynnu arnyn nhw – grym y cyfryngau cymdeithasol, a grym anifeiliaid.

Julia’n gwenu ac yn cofleidio ei chi yn y coed
Julia gyda Cesar Boo

Henffych Cesar

Mae fy Naeargi Tarw Swydd Stafford, Cesar Boo, wedi bod wrth fy ochr ar hyd fy nhaith gyfan. Drwy fy nghylchoedd IVF, y llawdriniaethau, popeth.

Pan dw i’n cael dyddiau drwg iawn, mae e’n gwybod hynny. Os dw i yn y gwely, mae’n cyrlio i fyny drws nesa i fi. Dydy e ddim yn symud. Wneith e ddim hyd yn oed symud i fynd i lawr i gael diod neu i fynd i’r tŷ bach – mae’n aros wrth fy ochr. Maen nhw mor reddfol ac ar yr un donfedd â chi. Fe wneith e fy nghusanu a rhoi ei goesau o gwmpas fy ngwddf, ac mae’n rhoi cwtsh bach i chi.

Maen rhaid i chi fynd â nhw am dro, ond mae hynny’n eich helpu chi’n feddyliol ac yn gorfforol hefyd. Pan fyddwch chi’n teimlo’n wirioneddol ofnadwy, ac rydych chi’n meddwl: ‘Dim diolch,’ ac mae’n arllwys y glaw. Ond pan fyddwch chi’n mynd ag e allan, byddwch chi bob amser yn teimlo’n well ar ôl dod yn ôl. Yn wlyb domen, wrth gwrs… Ond rydych chi’n teimlo’n well. Rydych chi’n gweld ei fod yn dda i’ch iechyd meddwl.

Mae hefyd yr agwedd gymdeithasol o gwrdd â cherddwyr cŵn eraill. Rwy’n cael gweld pobl. A chael awyr iach.

Ei gwmnïaeth a’i gariad cyson yw’r peth. Dw i ddim yn meddwl y gall pobl ddeall oni bai eich bod chi wedi bod mewn sefyllfa lle mae pethau ar eu gwaethaf, ac mae’r cyfaill bach annwyl yna gyda chi bob amser. Mae e’n gwybod sut i wneud i fi deimlo’n hapusach, ac mae e’n gwybod pan fydda i’n drist. Dw i ddim yn meddwl bod pobl yn deall grym cariad anifail, oni bai eich bod chi wedi bod mewn sefyllfa wirioneddol wael.

Fe yw fy therapi i.

Cymorth ar-lein

Ces i ddiagnosis ym mis Tachwedd 2017. Dw i’n meddwl ei bod hi’n wirioneddol bwysig yn feddyliol fod pobl yn cael y diagnosis yna.

Ces i fy nhriniaeth gyntaf yn 2018, a dywedodd yr ymgynghorydd wrtha i am grwpiau cymorth endometriosis. Pan ymunais i â nhw ar Facebook, newidiodd fy myd-olwg oherwydd sylweddolais i nad oeddwn i ar fy mhen fy hunan. Mae hynny’n beth enfawr. Tan hynny, ro’n i’n meddwl bod y cyfan yn fy mhen. Ro’n i’n meddwl bod y symptomau yma i neb ond fi: y ffordd ro’n i’n teimlo, a’r ffaith eich bod chi wedi bod yn anlwcus mewn gwirionedd.

Yna pan fyddwch chi’n cwrdd â phawb arall, rydych chi’n sylweddoli: ‘Wyddoch chi beth? Dw i ddim ar fy mhen fy hunan.’ Rydyn ni i gyd yn profi hyn gyda’n gilydd, ac rydyn ni’n cefnogi ein gilydd.

Twitter Cŵn

Dechreuais dudalen Twitter Cesar tua’r adeg ges i fy niagnosis cyntaf. Yna pan ges i fy hysterectomi y llynedd, ro’n i ar Twitter yn aml, achos rydych chi’n gwella ac yn diflasu ar wylio’r teledu neu ddarllen.  Des i o hyd i bobl oedd yn caru anifeiliaid, yn caru cŵn yn benodol, ac fe achubodd hynny fi’n feddyliol, yn llythrennol. Nawr mae gen i ffrindiau – neu mae ganddo fe ffrindiau – ym mhob rhan o’r byd. Ar ei ben-blwydd yn 13 oed, cafodd e anrhegion o Dde Carolina, o Awstralia… Fe achubodd hynny fy mywyd go iawn. Dw i ddim yn credu y byddwn i wedi dod drwy’r peth yn feddyliol heb gefnogaeth pobl.

Does dim casineb ar Twitter Cŵn. Does dim bwlio na throlio. Mae popeth yn ysgafn ac yn braf. A dyna beth sydd ei eisiau arnoch chi – amgylchynu eich hunan gyda phethau hapus. Mae e’n agosáu at 10,000 o ddilynwyr erbyn hyn, sy’n anhygoel.

Rwy’n teimlo fel pe bawn i’n ceisio troi rhywbeth negyddol a gafodd effaith fawr ar fy mywyd, yn rhywbeth cadarnhaol. Y ffaith fy mod i wedi agor i fyny i’r rhwydwaith yma o bobl. Mae gen i ffrindiau gwych nawr, na fyddai gen i o’r blaen.

Mae llawer o fenywod ag endometriosis wedi cysylltu â fi drwy broffiliau cymdeithasol. A nid dim ond drwy grwpiau cymorth. Fe wnaeth lluniau o Cesar yn yr EndoOrymdaith ysgogi menywod i gysylltu â fi, er enghraifft.

Hyd yn oed mewn sefyllfaoedd fel prynu tei-bo melyn i’r ci… Mae’r fenyw a greodd y dudalen Etsy lle prynais i’r tei-bo yn EndoRyfelwr ei hunan, ac fe sefydlodd hi’r dudalen i helpu dioddefwyr endometriosis.

Rwy’n ceisio aros yn gadarnhaol er mwyn i fi allu helpu pobl.

I fi, mae’r ochr rhwydweithio wedi bod yn fendith. Trwy ymuno â grwpiau ar Facebook ac ati, sylweddolais i y galla i roi cyngor i bobl. Doedd gen i neb i fy helpu i, a phe bawn i’n gallu achub pobl sy’n profi’r hyn wnes i ei brofi am dros 30 mlynedd heb ddiagnosis, yna dyna beth wna i.

Mae pobl yn dweud bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth drwg – ac rwy’n cytuno, weithiau mae’n gallu bod – ond mae hefyd yn gallu bod yn beth gwirioneddol gadarnhaol a grymus. Yn enwedig wrth ddelio â salwch fel hyn, sy’n eich ynysu. Efallai y byddwch chi mewn grŵp o ffrindiau neu deulu sy’n ferched, sy’n siarad am fabanod, am yr hyn a’r llall, ac allwch chi ddim cymryd rhan mewn dim byd. Ac mae’n gallu gwneud i chi deimlo bod eich dyfodol yn eitha negyddol. Ond mae cwrdd â phobl ar y cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud fy nyfodol ychydig yn fwy cadarnhaol. Mae yna bethau da sydd wedi dod o’r pethau drwg.

Yn anffodus, ers cyhoeddi’r darn yma, bu farw Cesar Boo. Mae gan Julia gi newydd o’r enw Frank yn gyfaill iddi erbyn hyn. Frank Bach sydd bellach i’w weld ar dudalen Twitter Cesar, ac mae ganddo bron i 6,000 o ddilynwyr. Pan fu farw Cesar, fe gododd cyfeillion caredig Twitter Cŵn arian tuag at y biliau milfeddygol ac amlosgi, a rhoddwyd yr arian a oedd yn weddill i glwb Senior Staffy.

Baby Frank the Staffordshire Bull Terrier sits on the grass
Frank Bach