Jaimee Rae – Allan yn yr agored

Ar 10 Mawrth 2017, chwistrellodd Jaimee Rae furlun ar ei thŷ. Bellach mae enwau 500 o #EndoRyfelwyr sy’n byw ag endometriosis ar y wal, ac mae’r EndoWal gyntaf yn nodwedd eiconig yng Nghaerdydd.

Mae’r EndoWaliau yno i roi gwybod i’r rhai sy’n dioddef ag endometriosis nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Maen nhw yno i roi gwybod i’r byd bod endometriosis yn bodoli, ac nad yw’r rhai sy’n dioddef ag e yn anweledig nac yn dychmygu’r boen.

Jaimee Rae in front of Endo Wall 2
Jaimee Rae a’r EndoWal

Sut dechreuodd pethau

Ar ôl dwy lawdriniaeth a dychwelyd at y meddyg i ofyn am fwy o gymorth, dim ond i glywed bod y cyfan yn fy mhen, er fy mod i mewn poen cronig… Hynny oedd e’n rhannol, ac yn rhannol hefyd fy rhwystredigaeth fy mod wedi cael llond bol.

Rwy’n credu i fi ddechrau colli arni braidd. Dechreuais edrych ar-lein, a gweld bod diwrnod ymwybyddiaeth endometriosis yn bodoli. Yn wir, roedd mis Mawrth yn fis codi ymwybyddiaeth o endometriosis.

Trefnais sesiwn ffotograffiaeth gyda fy ffrind. Ro’n i am iddo gyfleu’r melyn, y symbol, a’r neges bod endometriosis yn bodoli. Yn amlwg, dyna yw lliw endo. Ond dewisais i felyn hefyd gan fod negyddiaeth o fy nghwmpas ar y pryd, ac ro’n i’n teimlo mor isel… Ro’n i eisiau rhywbeth i godi fy hunan, a helpu’r lleill oedd yn ei chael hi’n anodd hefyd. Rwy’n hoffi ychydig o liw. Meddyliais i pe bawn i’n mynd allan yna mewn melyn ac yn dechrau chwistrellu pethau â phaent, efallai y byddai’n dod ag ychydig o bositifrwydd i bobl.

Ro’n i wrthi’n chwistrellu, pan ddaeth bachgen ifanc heibio a dechrau rhegi arna i. Roedd e’n dweud ei bod yn warthus fy mod i’n difetha wal y tŷ. Dywedais “Wel, fy nhŷ i yw e, yn un peth. Ac yn ail, pe baet ti ond yn darllen beth mae’n ei ddweud, fe weli di bod mwy i’r peth. Dw i ddim yn tynnu llun o bidyn ar ryw wal, ydw i? Neu fagina? Efallai y gweli di bod yna neges y tu ôl i’r hyn rwy’n ceisio ei wneud’.

Roedd hi’n anodd iawn parhau gyda’r sesiwn ffotograffiaeth. Ar y dechrau, ro’n i’n barod i fynd amdani, ac roedd y rhwystredigaeth yndda i yn fy sbarduno. Ond yna fe achosodd y bachgen yna i fi deimlo’n ddigalon. Eisteddaidd ar y llawr, gyda fy mhen i lawr, ond yn ddigon eironig dyna oedd un o’r lluniau gorau. Roedd yn edrych yn arwyddocaol, oherwydd er fy mod i’n ceisio cael y neges yna allan, roedd yr un person yna wedi cau’r peth i lawr. Roedd angen i fi barhau i wneud hyn, felly gwthiais fy hunan. Ffoniwyd yr heddlu, ond doedden nhw ddim yn gallu fy arestio gan mai fy nhŷ i oedd e.

Tynnodd rhywun lun o’r wal, a chafodd ei rannu ar dudalen Facebook FTWW. I ddechrau, roedd yr ymateb yn gymysg. Ond yna dechreuodd pobl ddweud mwy a mwy, ‘Dw i’n meddwl ei fod e’n anhygoel, caria mlaen i wneud hyn, alla i gael fy enw i ar y wal?’

Cyn i fi droi rownd, roedd gen i dros 1,000 o enwau gan fenywod o bob rhan o’r byd, a phawb eisiau bod yn rhan o’r hyn ro’n i’n ei wneud. Rhoddodd hyn y nerth a’r penderfyniad i fi barhau i wthio ymlaen.

Cuddio i ffwrdd

Cafodd EndoWal II ei chwistrellu yn Sunflower & I, Bae Caerdydd. Mae 1,000 o enwau arni, a chafodd ei phaentio’n gyfan gwbl ar ochr fewn y safle. Cafe Go yw EndoWal III, ac mae gwahanol rannau y tu mewn a’r tu allan.

Gyda’r wal gyntaf, roedd modd i fi bicio allan am awr pe bawn i awydd, gan fy mod i’n byw yno. Ond gyda’r ail a’r drydedd wal… Nid yn fy nhŷ i oedden nhw. Roedd yn rhaid i fi weithio o gwmpas oriau busnes. Felly ro’n i’n gweithio drwy’r nos. Roeddwn i ar fy mhen fy hunan y tu mewn.

Sylweddolais gyda’r wal gyntaf fy mod i allan yn yr awyr agored. Byddai pobl yn cerdded heibio, ac yn gofyn beth ro’n i’n ei wneud. Ro’n i’n cyfathrebu. Sydd, i fi, yn help mawr.

Roedd y drydedd wal mewn dwy ran, ac roedd modd i fi fod tu allan. Felly dechreuodd hynny fy helpu i unwaith eto, gan fod pobl yn cerdded heibio ac yn gofyn cwestiynau. ‘Beth wyt ti’n ei wneud?’, ‘Am beth mae hyn?’… Rhoddodd hynny hwb go iawn i fi.

Nawr, dw i’n sylweddoli na wna i wal arall dan do. Os ydw i tu allan, rwy’n gallu cyfathrebu gyda phobl, dweud wrthyn nhw beth yw fy uchelgais, beth rwy’n ceisio ei wneud. Rwy’n credu mai cyfathrebu yw fy mhrif ffordd o ymdopi gyda phethau. Celf yw fy null arall.

Mwy o waliau, mwy o enwau.

Mae’r EndoWaliau yn helpu i annog yr Ymgyrch Codi Ymwybyddiaeth i dyfu a lledaenu dros y byd; gan hybu chwaeroliaeth sydd wedi’u tawelu i sefyll gyda’i gilydd a chodi llais dros newid.

Drwy ddefnyddio’r celf ar yr EndoWal, gallwn barhau i godi ymwybyddiaeth a chefnogi ein gilydd mewn ffordd gadarnhaol a lliwgar.

Rwy’n gobeithio un dydd y bydd EndoWaliau ym mhob dinas, fel bod modd iddyn nhw gael eu gweld, eu llofnodi, a’u rhannu. ????