Beth yw Endometriosis?
Endometriosis yw pan fydd meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd i’w chael y tu mewn i’r groth, yn cael ei chanfod mewn rhannau eraill o’r corff. I rai pobl, mae hyn yn gallu achosi symptomau difrifol, gan gynnwys mislif poenus a phoen pelfig, a gallai olygu fod pobl yn cael anawsterau’n beichiogi.
Gall endometriosis gael effaith enfawr ar ansawdd bywyd unigolyn, eu gwaith a’u perthnasau.

Mae endometriosis yn golygu pan fydd meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd i’w chael y tu mewn i’r groth, yn cael ei chanfod mewn rhannau eraill o’r corff.
Amcangyfrifir bod endometriosis yn effeithio ar un ym mhob deg menyw a’r rhai sy’n cael eu dynodi’n fenyw adeg eu geni. Fel arfer, ystyrir ei fod yn effeithio ar bobl o oedran atgenhedlu (yn gyffredinol rhwng 11 a 45), ond gall pobl sydd heb gyrraedd y glasoed eto, neu bobl hŷn sydd wedi mynd trwy’r menopos, fod â’r clefyd hefyd.
Fel arfer, mae endometriosis yn y pelfis. Y pelfis yw’r rhan o’r corff lle mae’r organau atgenhedlu e.e. y fagina, y groth, yr ofarïau a’r tiwbiau ffalopaidd. Yn y rhan yma o’r corff mae’r coluddyn a’r bledren hefyd, felly nid yw’n anarferol i endometriosis effeithio ar yr organau hynny hefyd. Yn achlysurol, gellir dod o hyd i endometriosis y tu allan i’r pelfis, ar organau neu strwythurau eraill yn y corff, gan gynnwys y diaffram a’r ysgyfaint.
Mae sbotiau endometriosis, neu ‘friwiau’, yn achosi gwaedu, llid a chreithiau lle bynnag maen nhw. Weithiau, gallan nhw achosi i organau lynu at ei gilydd gyda bandiau o feinwe craith o’r enw ‘adlyniadau’.
Gall endometriosis achosi poen a symptomau eraill, yn aml yn ystod y mislif. Dros amser, efallai bydd y symptomau yma’n digwydd drwy’r mis.
Er nad ydyn ni’n gwybod beth sy’n achosi endometriosis eto, mae ymchwil wedi dangos bod pobl yn fwy tebygol o fod â’r clefyd os yw e gan eu mam neu eu chwaer enetig.
