Empathi ar waith
Mae empathi ar ei fwyaf defnyddiol pan allwn ni ei ddefnyddio i wneud rhywbeth ymarferol i helpu’r person sy’n dioddef. Mae Dr Sarb Johal yn seicolegydd clinigol ac yn arbenigwr mewn seicoleg argyfwng, ac yn galw hyn yn empathi gyda chynllun gweithredu.
Yn hytrach na theimlo a siarad yn unig am y boen a’r symptomau, mae hyn yn golygu cymryd camau a fydd yn cefnogi’r person sy’n dioddef. Mae Dr Johal yn dweud bod llawer o gamau y gall pobl eu cymryd i helpu, ond rydyn ni’n awgrymu’r tri yma yn seiliedig ar wybodaeth, gwrando a chynllunio camau.
Dysgu am endometriosis
Ynghyd ag endometriosis.cymru a gwefan GIG 111 Cymru ar endometriosis, mae llawer o elusennau a sefydliadau y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, addysgu ac eirioli dros bobl sy’n byw ag endometriosis. Mae’r rhain yn cynnwys Endometriosis UK, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) ac Endometriosis.org.
Gwrando ar eich gilydd
Mae hyn golygu gwneud penderfyniad pwrpasol i wrando ac i ddeall rhywun go iawn. Mae pobl ag endometriosis yn aml yn teimlo bod eu sefyllfa a’u hanghenion yn anodd eu disgrifio, felly mae rhoi eich hunan yn eu sgidiau yn bwysig. Mae empathi hefyd yn ymwneud â chyfathrebu dwy ffordd. Mae gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr pobl ag endometriosis anghenion sydd angen eu hystyried hefyd.
Rydyn ni’n awgrymu dau declyn a allai helpu i annog y sgwrs.
Teclyn ‘Fi a Ti’ Endometriosis Cymru
Datblygon ni’r teclyn “Fi a Ti” i helpu pobl i ddeall effaith cyflwr fel endometriosis ar fywydau pobl. Mae’r teclyn yn rhoi dwy ffordd i bobl ddisgrifio ansawdd eu bywyd o’u safbwynt eu hunain. Gan ddefnyddio’r teclyn gyda ffrind, perthynas neu gydweithiwr, byddwch yn cael cyfle i siarad am ansawdd eich bywyd a sut mae eich amgylchiadau bywyd yn effeithio arnoch chi, eich perthnasau, a’ch gweithgareddau dyddiol.
DrawingOut: Invisible Diseases
Weithiau, gall ysgrifennu am eich profiadau neu arlunio helpu i ddangos sut rydych chi’n teimlo, yn hytrach na cheisio egluro wyneb yn wyneb. Menter a sefydlwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yw DrawingOut: Invisible Diseases, sy’n defnyddio darluniau i ddod â phrofiadau pobl sy’n byw â salwch anweledig yn fyw. Ar y wefan yma, mae llawer o straeon ac enghreifftiau gan bobl y mae endometriosis wedi effeithio ar eu bywydau, a gaiff eu disgrifio mewn geiriau a lluniau. Gallech hyd yn oed gyflwyno eich lluniau eich hunan.
Datblygu “cynllun gweithredu empathi” gyda’ch gilydd
Pan fydd gan bobl ddealltwriaeth well o’i gilydd, maen nhw’n gallu dechrau cymryd camau cefnogol. Gall y camau yma gynnwys: mwy o empathi (gwrando), cymorth ymarferol (cludo pecynnau gofal, cefnogi gweithgareddau bob dydd) neu helpu pobl â’r cyflwr i deimlo wedi’u grymuso (e.e. cyflogwr, cyflwyno addasiadau rhesymol). Dylid datblygu cynlluniau gweithredu empathi gyda’i gilydd, gan fod rhaid i’r camau weithio ar gyfer y bobl sy’n rhan o’u gweithredu.