Meithrin empathi
Mae’n gallu bod yn anodd deall sut beth yw byw gyda chyflwr iechyd cronig ac anweledig fel endometriosis. Gan nad ydyn ni’n gallu gweld beth mae’r afiechyd yn ei wneud yn fewnol, na phrofi symptomau, poen, a phryder ein gilydd, mae’n gallu bod yn anodd datblygu empathi.
Y newyddion da yw bod modd cydweithio i gynnwys mwy o empathi yn ein perthynas ag eraill mewn ffordd sy’n helpu’r holl bobl berthnasol.
Beth yw empathi?
Empathi yw’r gallu i adnabod teimladau unigolion arall yn wirioneddol, a dychmygu beth maen nhw’n ei feddwl ac yn ei deimlo, hyd yn oed os nad ydyn ni wedi rhannu eu profiadau. Pan fyddwn ni’n empathetig, gallwn ni ddisgrifio profiadau rhywun arall mewn ffordd sy’n canu cloch iddyn nhw. Wrth gwrs, er mwyn i eraill fod yn empathetig gyda ni, mae’n rhaid i ni fod yn barod i ddangos ein gwir hunan iddyn nhw.
“Mae [empathi] yn lleddfu ein pryder, yn ein helpu ni i brosesu amgylchiadau anodd a symud trwy emosiynau anodd yn gyflymach, fel bod modd i ni gymryd camau cadarnhaol i symud ymlaen unwaith eto.” – Dr Sarb Johal
Manteision empathi
Mae empathi yn hanfodol i bobl, yn bennaf gan ei fod yn gwneud i ni ddeall a helpu ein gilydd. Mae’n rhoi’r teimlad i’r bobl sy’n derbyn yr empathi nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Mae Dr Sarb Johal yn seicolegydd clinigol ac yn arbenigwr mewn seicoleg argyfwng, ac yn cefnogi pobl i ddatblygu empathi. Meddai Dr Johal, wrth brofi amgylchiadau heriol, bod “empathi yn ein helpu ni i deimlo fod rhywun wedi’n clywed ni a’n deall ni, ac yn normaleiddio’r anhawster rydyn ni’n ei brofi. Mae’n lleddfu ein pryder, yn ein helpu ni i brosesu amgylchiadau anodd a symud trwy emosiynau anodd yn gyflymach, fel bod modd i ni gymryd camau cadarnhaol i symud ymlaen unwaith eto.”
Bydd defnyddio’r adnoddau ar y dudalen yma’n helpu i feithrin empathi er mwyn cyflawni rhai o’r manteision yma.
Gwahanol fathau o empathi
Gall empathi fodoli mewn nifer o wahanol ffurfiau. Er enghraifft, gallwn ddangos empathi drwy gysylltu â dioddefaint eraill – teimlo tristwch drostyn nhw, neu bryder mewn ymateb i’w poen. Gelwir hyn yn empathi emosiynol. Efallai y byddwn ni hefyd yn dangos empathi drwy ystyried sefyllfa o safbwynt rhywun arall – rhoi eich hunan yn esgidiau rhywun arall. Gelwir hyn yn empathi meddyliol.
Mae Dr Johal yn dweud ei bod yn bwysig cadw cydbwysedd rhwng empathi emosiynol a meddyliol os ydyn ni’n dymuno helpu’r rhai sy’n dioddef.
Oes anfantais i empathi?
Os oes gormod o ‘deimlo gyda pherson sy’n dioddef’ efallai na fyddwn ni’n helpu. Os ydyn ni’n teimlo gormod, efallai yn y pen draw y byddwn ni’n osgoi cysylltu gyda phobl sy’n dioddef, fel mae Dr Johal yn egluro, “cau i lawr neu osgoi”. Gall y “cau i lawr” yma ddigwydd yn achos y person sydd â’r cyflwr, a’r bobl o’u cwmpas.
- Rhieni neu bartneriaid sy’n teimlo dioddefaint rhywun sy’n annwyl iddyn nhw sy’n ymdopi â symptomau dwys a dinistriol.
- Gall pobl ag endometriosis gau i lawr pan fyddan nhw’n gweld eu ffrindiau neu eu teulu yn pryderu am eu dioddefaint, ac o ganlyniad yn stopio rhannu eu teimladau gyda nhw.
Gwisgo mwgwd

Weithiau, gall pobl ag endometriosis guddio eu teimladau gan nad oes digon o empathi – os ydyn nhw’n teimlo bod eu dioddefaint yn cael ei anwybyddu. Er y gall cuddio y tu ôl i fwgwd helpu i reoli sefyllfa lle bydd prinder neu ormod o empathi, anaml y mae’r cuddio yma’n helpu’r unigolyn sy’n dioddef o endometriosis. Mae’n well ceisio dweud wrth eraill sut gallan nhw helpu.
Yn anffodus, mae hefyd yn wir na fydd rhai pobl yn deall, waeth beth yw eu rheswm. Mae hyn yn gallu bod yn arbennig o rwystredig, yn enwedig os oes gennych berthynas agos gyda’r bobl yma. Yn hytrach, efallai y byddai’n ddefnyddiol siarad gyda phobl sy’n profi’r un profiadau â chi. Gallwch ddarllen mwy am grwpiau cymorth yma.
Er mwyn bod o gymorth, mae angen cydbwyso empathi rhwng empathi emosiynol a meddyliol. Darllenwch fwy am roi’r syniadau yma ar waith.