Llwybr Triniaeth a Rheoli

Canllaw cam wrth gam i helpu meddygon i nodi neu drin clefyd penodol yw llwybr.

Cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ganllawiau newydd cynhwysfawr ar wneud diagnosis a thrin endometriosis ym mis Medi 2017. Yng Nghymru, mae ganddon ni lwybrau sy’n seiliedig ar yr argymhellion NICE yma, ond gyda chyngor ychwanegol ac arfer gorau ar gyfer Cymru.

Dylai triniaeth endometriosis gael ei llywio gan yr hyn sy’n fwyaf priodol i glaf penodol. Efallai na fydd rhai cleifion eisiau llawdriniaeth, ac efallai na fydd eraill yn gallu neu’n awyddus i gymryd meddyginiaethau penodol. Efallai mai beichiogi fydd y flaenoriaeth i rai, ac efallai bydd eraill eisiau lleihau dwyster symptomau eraill, fel poen neu waedu.

Mae’n bwysig cofio y dylai’r llwybr triniaeth a rheoli gael ei arwain gan ddewisiadau a blaenoriaethau’r claf. Mae hyn yn golygu os yw rhywun yn teimlo nad yw’r dull rheoli presennol yn briodol iddyn nhw, yna fyddan nhw ddim yn symud ymlaen yn awtomatig at gam nesaf y llwybr.

  1. Trafodwch eich dewisiadau a’ch blaenoriaethau

    Dylech gael cynnig triniaeth endometriosis yn unol â’ch rhesymau dros weld meddyg, eich symptomau, eich dewisiadau a’ch blaenoriaethau, yn hytrach na cham yr endometriosis. Bydd hyn yn cynnwys effaith y symptomau ar eich bywyd bob dydd, neu os ydych chi’n bwriadu cael plant yn y dyfodol.

    Cwestiynau i’w hystyried

    • eich oedran
    • beth yw eich prif symptomau, fel poen neu anhawster yn beichiogi
    • a ydych chi eisiau beichiogi – gall rhai triniaethau eich atal rhag beichiogi
    • sut rydych chi’n teimlo am gael llawdriniaeth
    • a ydych chi wedi rhoi cynnig ar rai o’r triniaethau o’r blaen

     

  2. Rheoli poen

    Mae’n bosib y bydd eich meddyg am ddechrau rheoli symptomau gan ddefnyddio rhyw fath o ddull lleddfu poen. Ni fydd rheoli poen yn atal y clefyd rhag datblygu.

    Mae gwahanol fathau o feddyginiaethau poen a fydd yn cael eu cynnig i chi, yn dibynnu ar ddifrifoldeb ac effaith eich symptomau:

    • Meddyginiaeth poen arferol fel parasetamol
    • Cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAIDs) fel ibuprofen neu naprocsen.
    • Niwrofodylyddion – caiff y cyffuriau yma eu rhagnodi fel gwrthiselyddion fel arfer, ond mewn dos isel gallan nhw fod yn effeithiol yn trin gwahanol fathau o boen nerfol
  3. Triniaeth hormonaidd

    Mae’n bosib y bydd eich meddyg yn cynnig triniaethau hormonaidd sy’n effeithio ar gynhyrchiad hormonau rhyw benywaidd (er enghraifft, y bilsen atal cenhedlu geneuol gyfunol neu brogestrogen) i leihau’r boen a achosir gan endometriosis.

    Mae triniaethau hormonau ar gyfer endometriosis fel arfer yn gweithio mewn un o ddwy ffordd: mae naill ai’n twyllo’r corff i feddwl ei fod yn feichiog, neu mae’n twyllo’r corff i feddwl ei fod yn mynd drwy’r menopos. Triniaethau dros dro yw’r rhain, a dylai’r effeithiau ddod i ben pan fyddwch chi’n stopio cymryd y feddyginiaeth.

    Mae’n bwysig cofio, er bod triniaethau hormonaidd yn gallu lleihau symptomau ac arafu lledaeniad y clefyd, dydyn nhw ddim yn cael gwared arno. Fyddan nhw ddim chwaith yn cael unrhyw effaith ar feinwe craith sydd eisoes yn bodoli (adlyniadau), a dydyn nhw ddim yn gwella ffrwythlondeb os yw endometriosis eisoes wedi cael effaith ar eich ffrwythlondeb. Gall triniaethau hormonaidd hefyd achosi sgil-effeithiau y mae rhai pobl yn ei chael yn anodd goddef. I’r rhan fwyaf o bobl, bydd y symptomau yma’n setlo ar ôl ychydig o wythnosau. Os nad ydyn nhw, neu os yw’r sgil-effeithiau’n rhy anodd i’w rheoli, gallwch siarad gyda’ch meddyg am y mathau eraill o driniaethau hormonaidd y gallech roi cynnig arnyn nhw yn eu lle.

    Efallai y byddwch yn penderfynu nad triniaethau hormonaidd yw’r opsiwn cywir i chi. Mae bob amser yn bwysig darllen y daflen sy’n dod gyda’ch meddyginiaeth a siarad gyda’ch meddyg neu nyrs os yw un o’r symptomau’n peri pryder i chi.

    Bydd modd i’ch meddyg drafod gwahanol opsiynau triniaeth hormonau sydd ar gael i chi.

    Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar driniaeth hormonaidd ar gyfer rheoli poen endometriosis tybiedig, ond nad oedd yn effeithiol, dylech gael eich cyfeirio at wasanaeth gynaecoleg neu wasanaeth endometriosis arbenigol i ymchwilio ac ystyried opsiynau triniaeth.

     

  4. Llawdriniaeth geidwadol

    Dylai eich meddyg drafod opsiynau rheoli llawfeddygol gyda chi. Nod unrhyw lawdriniaeth fyddai lleihau effaith y clefyd. Gallai hyn fod i leihau poen, adfer anatomeg arferol y pelfis os oes adlyniadau, neu wella eich siawns o feichiogi os yw’r clefyd yn effeithio ar weithrediad atgenhedlu.

    Mae llawdriniaeth geidwadol yn ceisio cael gwared â’r clefyd gan adael eich organau atgenhedlu yn gyfan. Mae dau fath gwahanol o lawdriniaeth geidwadol.

    • Abladiad
    • Toriad

    Fel arfer caiff y ddau fath o lawdriniaeth eu perfformio drwy laparosgopi (llawdriniaeth twll clo), ond bydd toriad fel arfer yn cael ei berfformio gan lawfeddyg neu ymgynghorydd endometriosis arbenigol.

    Dangosir proses abladiad a thoriad gan ddefnyddio llun o flodyn. Yn achos abladiad, caiff y blodyn ei dorri wrth y coesyn, gan adael y gwreiddyn yn y tir. Yn achos toriad, caiff y blodyn ei dynnu’n llwyr, gan gynnwys y gwreiddyn.
    Mae abladiad yn golygu tynnu’r clefyd ar yr arwyneb. Mae ‘toriad’ yn golygu torri unrhyw endometriosis gweladwy oddi yno

    Mae ‘abladiad’ yn golygu tynnu’r clefyd ar yr arwyneb, mae ‘toriad’ yn golygu torri unrhyw endometriosis gweladwy oddi yno

    Abladiad yw’r math mwyaf cyffredin o driniaeth lawfeddygol gan ei fod yn llai cymhleth, ac mae mwy o lawfeddygon cyffredinol wedi’u hyfforddi yn y llawdriniaeth yma na thoriad. Mae’r llawfeddyg yn defnyddio laser i losgi unrhyw glefyd maen nhw’n ei weld yn ystod y driniaeth. Mae hyn yn gweithio orau gyda smotiau o glefyd sy’n eistedd ar wyneb strwythurau neu organau pelfig. Nid yw abladiad yn effeithiol iawn yn trin dyddodion dwfn o endometriosis gan nad oes modd i’r laser dreiddio’r meinwe’n ddigon dwfn i ddinistrio nodiwlau o’r clefyd sy’n gorwedd o dan yr wyneb. Gan fod y clefyd yn cael ei losgi i ffwrdd yn ystod abladiad, does dim modd anfon y meinwe i gael biopsi.

    Mae toriad yn driniaeth arbenigol a llai cyffredin, lle mae angen mwy o hyfforddiant ac mae’n cymryd mwy o amser i’w gyflawni. Mae toriad yn fwy tebygol o gael ei gyflawni gan lawfeddyg neu ymgynghorydd endometriosis arbenigol. Mae’n cynnwys torri i mewn i’r meinwe i gael gwared â smotiau o’r clefyd yn llwyr. Mae hyn yn golygu bod potensial i’r driniaeth yma gael gwared â dyddodion llawer dyfnach o’r clefyd, ac nid y rhai sydd ar yr wyneb yn unig. Gall y llawfeddyg anfon rhywfaint o’r meinwe a dynnir i’r labordy i’w brofi (biopsi) i gadarnhau’r diagnosis.

    Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd llawfeddyg yn tynnu meinwe yn un o’r ffyrdd yma yn ystod laparosgopi diagnostig. Gall llawdriniaeth geidwadol gynnig rhyddhad rhag symptomau, ond gallan nhw ddychwelyd yn ddiweddarach. Mae’n bwysig cofio bod pob llawdriniaeth yn cyflwyno risg y dylech ei hystyried a’i thrafod gyda’ch ymgynghorydd cyn penderfynu ar lawdriniaeth.

  5. Llawdriniaeth radical

    Mewn achosion prin, mae’n bosib y bydd eich meddyg yn trafod llawdriniaeth fwy radical gyda chi, sy’n cynnwys tynnu rhai organau atgenhedlu neu organau eraill. Mae’n bosib y bydd eich meddyg yn ystyried yr hyn a gaiff ei alw’n ‘llawdriniaeth radical’. Mae hyn yn golygu tynnu un neu fwy o’ch organau yn llwyr. Mae dau brif fath o ‘lawdriniaeth radical’ a gaiff eu cysylltu’n aml ag endometriosis.

    • Hysterectomi
    • Oofforectomi

    Mae hysterectomi yn cynnwys tynnu’r groth ac organau eraill, yn ddibynnol ar y math o hysterectomi.

    • Hysterectomi llwyr (y groth a’r serfics)
    • Hysterectomi is-lwyr (dim ond y groth)
    • Hysterectomi llwyr gydag salpingo-oofforectomi (y groth, serfics, tiwbiau ffalopaidd a’r ofarïau)
    • Hysterectomi radical (y groth a’r meinwe amgylchynol, tiwbiau ffalopaidd, rhan o’r fagina, ofarïau, chwarennau lymff, meinwe frasterog)

    Llawdriniaeth i gael gwared â’r ofarïau yw oofferectomi. Mae oofforectomi unochrog yn tynnu un, ac mae oofforectomi dwyochrog yn tynnu’r ddwy. Ar ôl tynnu’r ddwy ofari, byddwch chi’n mynd i mewn i’r menopos ar unwaith os nad ydy hynny wedi digwydd i chi eisoes.

    Mae’r ofarïau’n cynhyrchu hormonau a welwyd eu bod yn chwarae rôl mewn sbarduno symptomau’r clefyd. Os nad yw’r ofarïau yno bellach i gynhyrchu’r hormonau yma, ystyrir bod modd lleihau effaith symptomau endometriosis. Mae symptomau rhai pobl wedi lleddfu drwy dynnu eu ofarïau ynghyd â’r groth. Serch hynny, mae llawer o faterion i’w hystyried wrth feddwl am gael oofforectomi.

    Mae ffyrdd llai parhaol o leihau’r hormonau yma nad yw’n cynnwys tynnu’r ofarïau. Efallai y byddwch am ystyried yr opsiynau yma gyda’ch ymgynghorydd cyn penderfynu ar oofforectomi.

    Nid yw hysterectomi llawn bob amser yn datrys problemau mae endometriosis wedi’u hachosi yn y gorffennol. Mae llawer o bobl yn adrodd am symptomau’n parhau, a gaiff eu hachosi drwy greithiau neu niwed i organau eraill fel y coluddyn. Gall y menopos achosi symptomau mae llawer yn eu cael yn anodd i’w rheoli, fel blinder, sychder y fagina, a phyliau poeth. Gall hyn fod yn arbennig o anodd i bobl sydd wedi cael llawdriniaeth yn ifanc ac sydd heb bobl o’u cwmpas nhw sy’n profi’r un teimladau ar yr un adeg.

    Mae’n bwysig cofio bod profiad pawb yn wahanol, a bod llawer o bobl y mae wedi llwyddo i leddfu eu symptomau endometriosis yn sylweddol drwy driniaethau llai parhaol. Mae’r rhain yn cynnwys triniaethau hormonaidd, ffisiotherapi wedi’i thargedi, neu drwy gael llawdriniaeth i dynnu endometriosis. Gall siarad gyda phobl eraill sydd wedi cael yr un profiadau â chi fod o gymorth, yn ogystal â thrafod y risgiau meddygol a’r manteision gyda’ch ymgynghorydd.

    Cyflawnir yr holl lawdriniaethau yma o dan anesthetig cyffredinol. Mae’n bosib y bydd meddyg yn ystyried oofforectomi neu hysterectomi am nifer o resymau, ond does dim modd dad-wneud yr un o’r ddwy lawdriniaeth. Dylech drafod manteision ac anfanteision unrhyw lawdriniaeth gyda’ch llawfeddyg. Mae’n bwysig cofio bod pob llawdriniaeth yn cyflwyno risg y dylech ei hystyried a’i thrafod gyda’ch ymgynghorydd cyn penderfynu ar lawdriniaeth.