Traciwr Symptomau Endometriosis Cymru
Er mwyn i feddygon ddeall pam rydych chi’n cael symptomau, mae angen iddyn nhw ddeall natur y symptomau yma. Lawrlwythwch y traciwr symptomau a darllenwch yr adran yma i ddeall sut i ddefnyddio’r traciwr.
Lawrlwytho PDF ‘Amdanoch Chi’ y Traciwr Symptomau
Lawrlwytho PDF ‘Cofnodi Symptomau’ y Traciwr Symptomau
Bydd eich meddyg am wybod:
- y math o symptomau (e.e. poen pelfig, poen mislif, symudiadau coluddyn poenus)
- pa mor aml mae’r symptomau’n digwydd (e.e. o dro i dro, yn rheolaidd)
- a yw’r symptomau’n digwydd mewn patrwm ailadroddus penodol (e.e. cysylltiedig â’r mislif)
- pa mor ddifrifol yw’r symptomau, er enghraifft effaith ar weithgareddau bob dydd (e.e. anhawster yn mynd i’r ysgol neu’r gwaith)
Y tri rheswm mwyaf cyffredin dros oedi mewn diagnosis yw: credu bod eich symptomau’n normal, camgymryd eich symptomau am gyflwr arall, neu gymryd meddyginiaeth sy’n rheoli eich symptomau – hyd yn oed os nad dyna pam rydych chi’n cymryd y feddyginiaeth.
Yn aml, bydd meddygon yn gofyn i chi gadw dyddiadur symptomau neu draciwr symptomau am gyfnod o amser i helpu â’r sgwrs yma. Mae tracio’n golygu gwneud nodyn o symptomau (math, pa mor aml, patrwm, difrifoldeb) dros gyfnod o amser. Bydd angen gwneud hyn am rai misoedd fel arfer.
Mae llawer o ffyrdd o dracio symptomau gynaecolegol, ond nid yw pob traciwr wedi’u dylunio’n benodol i dracio symptomau mewn ffordd sy’n ddefnyddiol i feddygon. Mae rhai tracwyr wedi’u creu i ddeall y gylchred fislifol neu ffrwythlondeb. Bydd eraill wedi’u dylunio ar gyfer symptomau gynaecolegol, ond efallai y byddan nhw’n gofyn gormod o gwestiynau neu ddim yn gofyn y cwestiynau cywir i helpu eich sgwrs gyda meddyg.
Datblygon ni Draciwr Symptomau Endometriosis Cymru i’ch helpu chi i dracio symptomau mewn ffordd a fydd yn helpu i gynnal trafodaethau gyda meddyg. Dyluniwyd y Traciwr Symptomau i’ch helpu chi i egluro eich symptomau mislifol neu gynaecolegol wrth eich Meddyg Teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Mae’r traciwr yn canolbwyntio ar y pynciau y mae’n fwyaf defnyddiol gwybod amdanynt wrth benderfynu ar y llwybr gofal ar gyfer pobl sydd â symptomau a allai fod yn endometriosis. Bydd y traciwr yn eich helpu i adeiladu proffil o’ch symptomau y gallwch ei ddangos i’ch meddyg.
Sut i ddefnyddio Traciwr Symptomau Endometriosis Cymru
Mae dwy ran i’r traciwr. Mae’r rhan gyntaf yn gofyn amdanoch chi a’ch hanes meddygol, ac mae’r ail ran yn gofyn am eich symptomau.
Amdanoch chi
Amdanoch chi a’ch hanes meddygol
Mae’r traciwr yn gofyn rhai cwestiynau sylfaenol fel eich oedran, oes ganddoch chi aelod o’r teulu ag endometriosis, pa mor hir yw eich mislif fel arfer, a dyddiad eich mislif diwethaf.
Mae hefyd yn gofyn a ydych chi wedi gweld meddyg am eich symptomau, a ymchwiliwyd i’r symptomau, ac a ydych chi’n cymryd meddyginiaeth a allai effeithio ar ddwyster neu effaith eich symptomau. Dim ond y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio’r traciwr y bydd angen llenwi’r rhan yma, neu os bydd eich atebion wedi newid ers y tro diwethaf i chi eu hateb.
Lawrlwytho PDF ‘Amdanoch Chi’ y Traciwr Symptomau
Cofnodi Symptomau
Eich symptomau ac effaith eich symptomau
Yma mae’r traciwr yn gofyn am gyfres benodol o symptomau ac a ydych chi wedi profi rhai ohonyn nhw dros y 24 awr. Mae’n iawn os nad ydych chi wedi profi rhai o’r symptomau. Mae’r ffaith fod y symptomau’n mynd a dod yn wybodaeth ddefnyddiol i’ch meddyg. Nid yw’n gofyn i chi am bob symptom endometriosis posib. Mae’n gofyn am nifer fach o symptomau sy’n gwahaniaethu endometriosis rhwng cyflyrau eraill tebyg. Dylech gwblhau’r rhan yma bob tri diwrnod.
Mae’r traciwr yn gofyn sut mae eich symptomau yn effeithio arnoch chi mewn dwy ffordd.
- Dwyster y poen
- Yr effaith ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd
Lawrlwytho PDF ‘Cofnodi Symptomau’ y Traciwr Symptomau
Pryd i ddefnyddio’r traciwr
Dylech ddefnyddio’r traciwr bob tri diwrnod am o leiaf dri mis (neu dros dri mislif), hyd yn oed os nad ydych chi’n profi symptomau. Bydd eich meddyg yn ei chael yn ddefnyddiol gweld patrwm eich symptomau cyn y gallan nhw benderfynu ar y llwybr gofal gorau i chi. Drwy ddefnyddio’r traciwr yn rheolaidd, byddwch chi’n cofnodi effaith eich symptomau ar adegau gwahanol o’ch cylchred fislifol (pan fyddwch chi’n gwaedu, yng nghanol y gylchred, a hefyd cyn eich mislif).
Eich apwyntiad
Ewch â chanlyniadau eich traciwr symptomau gyda chi pan fyddwch chi’n ymweld â’ch meddyg. Bydd y wybodaeth yma’n ddefnyddiol i’ch meddyg wrth benderfynu ar y llwybr triniaeth gorau i chi. Y mwyaf y byddwch chi’n defnyddio’r traciwr, y mwyaf manwl fydd y darlun o’ch symptomau a’u heffaith i’ch Meddyg Teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Efallai y byddwch chi am rannu’r wybodaeth yma gyda’ch Meddyg Teulu cyn eich apwyntiad. Cysylltwch â’ch meddygfa i ganfod y ffordd orau i wneud hyn.