Llwybr Diagnosis
Canllaw cam wrth gam i helpu meddygon i nodi neu drin clefyd penodol yw’r llwybr diagnosis. Mae’n rhoi gwybod iddyn nhw pa opsiynau sydd ar gael i’w claf a ble allai fod angen eu cyfeirio nhw nesaf. Mae’n gallu bod yn anodd iawn gwneud diagnosis o endometriosis, gan nad yw’n amlygu ei hunan yn yr un ffordd ym mhob claf.
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi cynhyrchu canllawiau newydd cynhwysfawr ar wneud diagnosis a thrin endometriosis. Cyhoeddwyd y canllawiau terfynol ym mis Medi 2017. Yng Nghymru, mae ganddon ni lwybrau sydd wedi’u seilio ar argymhellion NICE, ond gyda chyngor ychwanegol penodol i Gymru, a argymhellwyd yn adroddiad 2018 y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n bwysig cofio, os yw un o’r camau cynnar ar y llwybr diagnosis yn dangos canlyniadau normal, mae’n dal yn bosib bod endometriosis gennych chi. Dim ond profi bod gennych chi endometriosis gall yr archwiliadau a’r sganiau ei wneud, nid profi nad oes gennych chi endometriosis, ac felly dylech symud at y cam nesaf ar y llwybr.
-
Mae gennych symptomau endometriosis
Mae endometriosis yn gyflwr anodd i wneud diagnosis ohono, gan fod cymaint o’r symptomau sy’n gysylltiedig â’r clefyd yn gallu bod yn symptomau o glefydau eraill.
Os yw eich symptomau’n gwaethygu ar adegau gwahanol yn ystod eich cylchred fisol, gallai hyn fod yn arwydd o endometriosis.
Mae cadw log neu ddyddiadur yn gallu eich helpu i nodi sut mae eich poen a’ch symptomau’n newid yn ystod eich cylchred. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol iawn pan ddaw at siarad am eich symptomau gyda meddyg.
-
Archwiliad abdomen neu belfig
Archwiliad abdomen neu belfig i wirio am chwydd neu dynerwch anarferol, ynghyd ag unrhyw arwyddion gweladwy o’r clefyd.
Cofiwch, os yw’r archwiliadau yma’n dod â chanlyniadau normal, dydy hynny ddim yn golygu nad oes gennych chi endometriosis – dim ond nad yw’n weladwy o’r archwiliad yma.
-
Sgan Uwchsain
Hyd yn oed os oedd eich archwiliad pelfig a/neu abdomen yn normal, mae’n bosib y bydd eich meddyg yn argymell sgan uwchsain i edrych am arwyddion sy’n gysylltiedig ag endometriosis.
Cofiwch, os yw’r sgan uwchsain yn ymddangos yn normal, dydy hynny ddim yn golygu nad oes gennych chi endometriosis – dim ond nad yw’n weladwy o’r archwiliad yma.
-
MRI Pelfig
Math o sgan sy’n cymryd nifer o luniau o’r tu mewn i ardal eich pelfis yw’r MRI Pelfig. Mae’n gallu dangos organau fel eich croth, eich pledren a’ch coluddyn. Nid yw’r sgan yn boenus, a does dim ymbelydredd. Fel arfer bydd gofyn i gleifion orwedd yn llonydd ar eu cefn ar fwrdd cul a fydd yna’n llithro i mewn i’r peiriant MRI er mwyn dechrau tynnu’r lluniau. Gall MRI pelfig helpu i nodi lefel endometriosis dwfn ar y coluddyn, y bledren a’r wreter.
Dylai sganiau MRI gael eu dehongli gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n arbenigo mewn delweddu gynaecolegol.
Cofiwch, os yw’r MRI yn ymddangos yn normal, dydy hynny ddim yn golygu nad oes gennych chi endometriosis – dim ond nad yw’n weladwy o’r archwiliad yma.
-
Laparosgopi Diagnostig
Llawdriniaeth twll clo yw laparosgopi, lle defnyddir camera i weld y tu mewn i’ch pelfis. Laparosgopi yw’r ffordd fwyaf dibynadwy o wneud diagnosis o endometriosis. Fel arfer byddwch chi’n cael eich rhoi i gysgu (“o dan anesthetig”) wrth i’r llawdriniaeth ddigwydd, sy’n golygu na fydd modd i chi weld na theimlo dim wrth iddi ddigwydd.
Bydd gynaecolegydd medrus sydd wedi’u hyfforddi mewn llawdriniaeth laparosgopig ar gyfer endometriosis yn archwilio y tu mewn i’ch pelfis yn ofalus, ac yn gwirio’r organau sydd y tu mewn iddo.
Yn ystod laparosgopi diagnostig, mae’n bosib y bydd eich llawfeddyg yn cymryd sampl fach o gelloedd o’ch pelfis a’u hanfon i’w profi am endometriosis yn nes ymlaen.
-
Ai endometriosis sydd gen i?
Gall endometriosis fod yn glefyd anodd i’w adnabod, yn enwedig os nad ydych chi wedi gweld arbenigydd endometriosis neu os ydych chi’n ifanc. Ond os caiff gwiriad trylwyr o’ch pelfis ei wneud drwy laparosgopi a bod popeth yn ymddangos yn normal, bydd eich meddyg yn dod i’r casgliad nad oes gennych chi endometriosis.
Mae’n bosib y byddwch chi’n teimlo wedi’ch drysu os ydych chi’n clywed nad oes endometriosis gennych chi ar ôl laparosgopi, yn enwedig os ydych chi’n dal i brofi symptomau heb achos pendant. Mae’n werth cofio bod cyflyrau iechyd eraill sydd â symptomau tebyg i endometriosis, felly mae’n bwysig trafod diagnosis amgen a ffyrdd o reoli symptomau gyda’ch meddyg.
-
Camau
Os cewch ddiagnosis o endometriosis, bydd eich gynaecolegydd yn creu disgrifiad manwl o unrhyw annormaleddau y daethon nhw o hyd iddyn nhw. Bydd hyn yn cynnwys ble yn eich corff y gwelwyd nhw, a faint oedd yno. Weithiau bydd y llawfeddyg yn cofnodi hyn fel camau o 1 i 4 sy’n ymwneud â lefel a thrwch yr adlyniadau neu feinwe craith, y tu mewn i’ch pelfis.
- Mae Cam 1 yn awgrymu bod lefel y clefyd yn llai difrifol heb lawer o effaith ar ffrwythlondeb.
- Mae Cam 4 yn awgrymu adlyniadau neu feinwe craith mwy trwchus a’ch bod yn fwy tebygol o brofi anffrwythlondeb.
Mae’r system gamau yn asesu effaith y clefyd ar eich gallu i feichiogi, ac nid graddau eich symptomau. Mae’n bwysig iawn cofio nad yw’r camau yma’n cyd-fynd â lefel y boen rydych chi’n ei brofi. Gall claf ag endometriosis Cam 1 fod mewn llawer mwy o boen na chlaf ag endometriosis Cam 4.