Endometriosis a gwaith

Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldeb i sicrhau bod eich gweithle’n ddiogel ac yn gynhwysol. Ond os oes gennych ofynion penodol, er enghraifft os oes gennych chi endometriosis neu’n amau bod gennych chi, bydd angen i chi ddweud wrthyn nhw sut mae eich symptomau’n effeithio arnoch chi.

Efallai bod hyn yn teimlo’n frawychus, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud â rhywbeth mor bersonol, ond ddylech chi ddim poeni am ddatgelu cyflwr iechyd, na phoeni am ddiogeledd eich swydd a’ch amodau gweithio o ganlyniad i’r datgeliad yma.

Addasiadau rhesymol

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud ‘addasiadau rhesymol’ fel nad yw gweithwyr anabl o dan anfantais sylweddol wrth wneud eu swyddi o gymharu â phobl nad ydyn nhw’n anabl. Mae hyn yn berthnasol i bob gweithiwr, gan gynnwys hyfforddeion, prentisiaid, gweithwyr ar gontract a rhai partneriaid busnes.

Mae nifer o addasiadau y gallai cyflogwr eu hystyried, ond dylai addasiadau rhesymol gael eu teilwra i’ch achos penodol chi. Mae’r math o addasiadau rhesymol y gallai gweithwyr ag endometriosis ofyn amdanyn nhw fel arfer yn cynnwys:

  • A yw eich desg yn ddigon agos at doiled?
  • Oes modd i chi gymryd egwyliau byrrach ond yn amlach, er mwyn cymryd meddyginiaeth neu newid cynnyrch mislif?
  • Oes modd gweithio gartref?
  • Ar ôl llawdriniaeth, oes modd i chi ddychwelyd i’r gwaith yn raddol – gan weithio oriau byrrach neu lai o ddyddiau i ddechrau?

Cyngor pellach a chymorth ar faterion yn y gweithle

  • Mae Acas yn rhoi cyngor diduedd am ddim i weithwyr a chyflogwyr, ar hawliau, rheolau ac arfer da yn y gweithle, ac maen nhw’n cynnig hyfforddiant a chymorth i ddatrys anghydfodau.
  • Mae’r Gwasanaeth Cyfraith Anabledd yn rhoi cymorth i bobl sy’n ceisio cael mynediad at gyfle cyfartal yn y gweithle.
  • Mae Cyngor ar Bopeth yn gallu’ch helpu i ddysgu mwy am eich hawliau a sut i ddatrys problemau.
  • Os ydych chi’n aelod o undeb, byddan nhw’n rhoi gwybodaeth a chymorth i chi, ac yn gallu eich cynrychioli mewn cyfarfodydd gyda’ch cyflogwr, pe bai angen.
  • Gwasanaethau cymorth fel Iechyd Galwedigaethol