Beth yw symptomau endometriosis?
Mae’r rhan fwyaf o bobl ag endometriosis yn profi poen yn ardal y pelfis. Caiff y boen ei theimlo’n aml ar adegau penodol yn y cylch mislif ac ar ôl rhyw. Os yw’n cael ei adael heb ei drin, gall endometriosis achosi poen ar adegau eraill o’r mis, hefyd.
Mae endometriosis yn effeithio ar y pelfis yn fwy na dim, ond mae hefyd yn gallu bod mewn rhannau eraill o’r corff. Mae hyn yn golygu bod symptomau endometriosis yn gallu amrywio llawer iawn rhwng un person a’r llall.
Ymhlith symptomau cyffredin endometriosis, mae:
- poen yn isel yn y bol neu’r cefn (poen pelfig) – sydd fel arfer yn waeth yn ystod y mislif
- poen mislif sy’n atal rhywun rhag gwneud eu gweithgareddau arferol
- poen yn ystod neu ar ôl rhyw
- poen wrth fynd i’r tŷ bach yn ystod mislif
- teimlo’n sâl, rhwymedd, dolur rhydd, neu waed yn eich wrin yn ystod mislif
- coesau poenus
- anhawster yn beichiogi (anffrwythlondeb)
- blinder
- teimlo’n wan a/neu lewygu
Ynghyd â’r symptomau mwy cyffredin, mae’n werth nodi bod llawer o symptomau eraill sy’n llawer llai cyffredin. Er enghraifft, ystyrir bod poen yn yr ysgwydd neu ysgyfaint yn symptom llai cyffredin, ac yn gyffredinol mae hyn yn effeithio ar bobl sydd ag endometriosis ar eu diaffram neu ysgyfaint.
Dydy gwaedu trwm ddim o reidrwydd yn arwydd o endometriosis, ond gall fod yn symptom o gyflwr arall o’r enw adenomyosis, sy’n aml yn digwydd ochr yn ochr ag endometriosis. Mae’n gyflwr tebyg iawn, ond yn hytrach na’r sbotiau neu’r briwiau y tu allan i’r groth, fel yn achos endometriosis, maen nhw yn ei waliau cyhyrol, gan wneud y groth yn fwy ac yn fwy ‘swmpus’. Mae’r cynnydd yma mewn maint yn golygu bod mwy o leinin yn y groth i’w waredu yn ystod y mislif, gan arwain at waedu trymach.

Er nad yw problemau iechyd meddwl yn symptomau o gyflwr endometriosis, mae pobl sy’n byw â chyflyrau poenus yn aml yn adrodd eu bod yn teimlo’n isel neu’n bryderus.